Hud yr Hen Ogledd


Nid yn aml iawn mae Dai Llanilar yn fud gan syndod. Fel arfer, mae Cocni enwocaf Cymru yn holi’r hwn a’r llall yn dwll, boed ar gae gwair neu gae rasys ceffylau. Ond y tro hwn, roedd wedi’i swyno’n llwyr gan fynyddoedd mawreddog a grug Gororau’r Alban. Ar raglen Cefn Gwlad (ITV Cymru) wythnos diwethaf, roedd Dai a’i ffon fugail yn cwrdd ag un o fechgyn Sir Drefaldwyn sy’n rheolwr fferm ar stâd Dug Buccleuch, un o berchnogion tir mwyaf Ewrop. Ac nid rhyw fferm fynydd ddi-nod mohoni chwaith. Eglurodd Siôn Williams o’r Foel, Llangadfan, ei fod yn gyfrifol am naw gweithiwr ar fferm 38,000 erw – cyfran fach iawn o’r 270,000 o erwau sydd yn nwylo’r Dug i gyd. A dyna ddechrau’r ebychiadau niferus o “mowredd” a “iesgob” o enau Dai. Dro ar ôl tro, roedd ffeithiau a ffigurau Siôn yn pwysleisio maint ei orchwyl. Roedd y siediau wyna polytwnnel yn dal 12,000 o ddefaid; wyau o 32,000 o ieir buarth yn ffynhonnell incwm gwerthfawr; a 48,000 o ffesantod yn cael eu bridio ar gyfer y tymor saethu hollbwysig. Ond er gwaetha’r niferoedd trawiadol, diddorol oedd clywed Siôn yn dweud ei fod yn chwilio am ffyrdd o arbed costau o hyd – fel creu eu dwysfwydydd eu hunain o haidd a gwenith cartref. Prawf fod hyd yn oed archffermwyr yr Alban yn gorfod gwylio’r bunt yng nghanol yr argyfwng credyd bondibethma. Yn y cyfamser, roedd Dai yn dal mewn perlewyg gyda safon y stoc, a’r ffaith fod cig eidion Scotch Buccleuch ar fwydlenni’r Ritz yn Llundain. Ond nid oedd am ganmol gormod, gan herian nad oedd gwartheg duon Aberdeen cweit cystal â’r rhai cyfatebol o Gymru!

Llwyddodd gwaith camera trawiadol Nigel Denman i gyfleu ehanger yr uchelfannau a’r lliwiau hydrefol i’r dim, a’r cestyll ganrifoedd oed yn rhoi naws Monarch of the Glen i’r cyfan. Er yr holl gyfeiriadau mynych at ei fos, ni welsom na bŵ na be o’r Dug - rhy brysur yn teithio rhwng ei bedwar plasty ar y stâd siŵr o fod. Ac roeddwn i’n ysu i glywed mwy o hanes Siôn hefyd, yn lle’r pytiau pum munud a gawsom ar ddiwedd y rhaglen. Dywedodd ei fod wedi ymgartrefu yn yr Alban ers 8 mlynedd, yn hoffi sgïo ac yn chwarae hoci bob nos Lun yn ei amser sbâr. Byddai’n grêt pe baem wedi’i weld yn cymdeithasu fin nos. Go brin y byddai Dai wedi gwrthod diferyn bach o’r ddiod genedlaethol. Ond gyda’r gyfres fytholwyrdd hon ar frig deg uchaf S4C yn rheolaidd, pwy ydw i i farnu?