Sulwyn a'r Sioe


Mae’r ysgolion a’r colegau wedi cau, a’r carafanwyr yn dechrau’i nadreddu hi ar ffordd drol yr A470. Wedi wythnosau o fochel dan yr ymbarél, daeth yr haul i wenu’n ddel ar Lanelwedd wythnos diwethaf. A-men, meddwn ni. Unwaith eto, roedd y criwiau teledu a radio yno i gofnodi pob beirniadaeth a bwrlwm y maes - a sôn am griw! Roedd Sioe ’08 megis ‘pwy ’di pwy’ y byd cyflwyno Cymraeg. Y dihafal, drwsiadus, Dai Jones yn llywio’r cyfan (dyna chi’n saff o filoedd o wylwyr yn barod) fel meistr y Prif Gylch, a’i lu o weithwyr ffyddlon ar hyd a lled y maes. Ac roedd digon i blesio pawb. Dyna chi Elen Pencwm yng nghanol y stocmyn, gan gynnwys cymeriad (arall) o Lanilar a oedd yn bedyddio pob gafr ar ôl enwau anfarwolion(!) Eurovision neu Miss World y gorffennol. Morgan Sgorio Jones wedyn yn denu’r ledis wrth bicied o stondin i stondin. A Nia Parry. Mae hon yn drysor cenedlaethol. A wnaiff rhywun botelu gwên lachar Ms Parry, a’i gadw’n saff at ddiwrnodau’r felan? Roedd rhyw fflyrtian chwareus wrth iddi holi’r hwn a’r llall, gan gynnwys perchennog cwmni nid anenwog o Gorwen oedd yn ceisio gwerthu trelar iddi gludo’i chwpwrdd dillad o fan i fan. Er hynny, efallai yr aeth hi braidd yn rhy bell wrth gynnig cynghorion ffasiwn i’r cneifwyr. Fel arfer, roedd sglein cystal â’r tractors newydd sbon danlli grai ar y rhaglenni hyn, gyda digon o amrywiaeth am awr bob nos yn gwneud i rywun ddifaru peidio â mynd yno yn y lle cyntaf. A braf gweld Sara Edwards yn llywio’r arlwy gyfatebol ar BBC2, wedi’r hen dro gwael a gafodd gan fosys Wales Today.

Mae ymweliad Pobol y Cwm â’r Sioe Fawr bellach mor draddodiadol â’r Wurzels fel adloniant noson ola’r pentre ieuenctid. Eleni, penderfynodd y sgriptwyr adael y criw ifanc gartref a chanolbwyntio’n hytrach ar yr hen stejars fwy llwyddiannus. Gyda’i gyn-wraig a’i fodryb fythol fusneslyd yn gwmni iddo, does ryfedd i Denzil ddianc yn syth i’r babell gwrw. Ac wele esgus i gyflwyno Sulwyn Thomas fel ‘seleb’ ddiweddara’r gyfres, er dyn â wyr beth oedd y cyn-ddarlledwr yn ei wneud yng nghwmni perchennog siop Cwmderi. Ta waeth am hynny, cafwyd golygfeydd digon doniol o Anti Marian wedi mopio’i phen yn lân wrth rannu gwin cartref gydag e:

“…Ma safon yn perthyn i chi…iaith raenus… ddim fel ’sda’r cryts ifanc dyddie ’ma”.

Does bosib mai cic slei gan sioe sebon o’r un stabl â Radio Gwynedd/Cymru oedd honna, yng nghanol helynt yr ailwampio arfaethedig?