Clod a bri a chwestiyna twp

Maen nhw'n bobman. Ar gyrion prif gylch y Sioe, gefn llwyfan y Pafiliwn neu wrth drac athletau'r Stadiwm Olympaidd. Y gohebwyr sy’n neidio o nunlle i hwpo’r meic dan drwyn y buddugwyr. Boed Mererid Hopwood neu Nicole Cooke, mae’n rhaid iddyn nhw ofyn y cwestiwn anfarwol hwnnw: “Sut ’da chi’n teimlo?”. Fel na phetai’r wên lydan ar eu hwyneb yn dweud y cyfan. A go brin y byddai rhywun buddugoliaethus yn ateb “go lew” efo siec a tharian yn ei law. Ar un llaw, mae’n peri i chi amau proffesiynoldeb yr holwr am ofyn rhywbeth mor wirion bost o amlwg; ar y llaw arall, efallai ei fod dan bwysau am y cyntaf i fachu’r enillydd ar raglen fyw â’r cyfarwyddwr yn sgrechian yn ei glustiau. Fel arfer, cafwyd darllediadau di-fai gan y BBC o Eisteddfod Genedlaethol Cymru dan law’r hen bennau profiadol Sara Gibson, Huw Eic a Rhun ap Iorwerth. Ymddengys mai Morgan Jones yw hoff holwr yr haf ar S4C y dyddiau hyn, wrth iddo grwydro maes Pontcanna ar ôl maes Llanelwedd. A chafodd dau gyflwynydd y rhaglen ryngweithiol rad-a-chas i blant, Mosgito (Uned 5 heb yr hwyl) ddyrchafiad i raglen y bobl fawr eleni. Chwarae teg, fe ddaliodd Trystan Ellis Morris ati’n ddewr yn erbyn tynnu coes di-baid ei hen gyfeillion o fand pres Deiniolen ym mar y Maes. A chafodd Erin Richard lifft cyfleus iawn gan yrrwr tacsi a chyn-ddisgybl Ysgol Glantaf, a swniai’n fwy o ‘Kiardiff Kid’ na Frank Hennesey hyd yn oed. Tipyn o gamp oedd dod o hyd i yrrwr tacsi lleol a wyddai am fodolaeth y Brifwyl, heb son am un Cymraeg ei iaith!

Roedd absenoldeb arwyddion croeso a baneri ar strydoedd y brifddinas yn siom fawr. Felly hefyd absenoldeb Sioe Gelf ’Steddfod. Roedd rhaglenni nosweithiol o Sir Fflint y llynedd yn wirioneddol dda, ac yn gyfle i glywed barn panel o feirniaid am gynhyrchion llên, cerdd a chân yr wythnos. Ond eleni, roeddem yn gorfod bodloni ar ailddarllediadau Y Babell Lên yn unig. A gorfu i Luned Emyr fodloni ar ymddangos ym mhennod eisteddfodol Pobol y Cwm, yng nghwmni’r awdur Siôn (Catrin Dafydd) White.

Heb os, mae’r traddodiad eisteddfodol yn rhan anhepgor o lwyddiant y ddau gôr o Gymru yng ngornest Last Choir Standing (BBC). Dwi fel arfer yn osgoi’r rhaglenni wawffactor-aidd hyn fel y pla, ond roedd rhaid cael sbec sydyn ar raglen ganlyniadau nos Sul i weld hynt Cantorion/Only Men Aloud a chriw Ysgol Glanaethwy. Mae’n werth gwylio dim ond i glywed y Saeson yn mynd ati i ynganu enw côr Rownd a Rownd!