12.8.08

Y Dinasyddion





Miloedd yn heidio i’r ddinas fawr ddrwg. Traffig yn tagu’r hewlydd budr. Camerâu a meicroffonau di-ri wedi’u hoelio ar y perfformwyr. Rhai’n fuddugoliaethus, eraill yn cael cam. Yr awdurdodau’n canmol i’r cymylau, y beirniaid yn gweld bai. Môr o liw ac acenion gwahanol, ac ambell brotest i dynnu sylw’r wasg. Nid Beijing, ond Caerdydd. Ac nid stadiwm enfawr ar ffurf nyth aderyn, ond pabell fawr binc. Ydy, mae’r Brifwyl wedi dychwelyd i’r brifddinas 30 mlynedd yn ddiweddarach. Anghofiwch am y ffaith nad yw’r Cardiffians fawr callach, ac ambell gyfryngi Cymraeg y cylch a’r papur tsips lleol South Wales Echo ddim balchach, mae Cymru gyfan yma! Ac mewn rhifyn arbennig o’r Sioe Gelf, aeth yr awdur brodorol Llwyd Owen â ni am dro ‘Lawr yn y Ddinas’ i weld sut mae Caerdydd wedi ysbrydoli byd y celfyddydau. Fel y gŵyr llawer o ffans ei nofelau diweddar, y lleoedd y tu ôl i’r lluniau cardiau post neis-neis o’r Stadiwm a’r Bae sy’n apelio fwyaf iddo. Roedd ei hen ffrind ysgol, y cynhyrchydd cerdd Tom Raybould, hefyd yn hoffi’r ddelwedd o’r byd dosbarth canol, parchus, Cymraeg yn gwrthdaro â’r is-fyd sy’n llechu yng nghonglau tywyllach y ddinas. Felly hefyd Geraint Jarman, a gyfaddefodd ei fod yn casáu’r enw Bae Caerdydd i’r carn – iddo ef, ardal y Docks sydd wedi’i sbarduno cymaint fel canwr a bardd. Difyr oedd clywed iddo ysgrifennu ei gerdd gyntaf yn Saesneg yn y cylchgrawn Poetry Wales yn ddisgybl 16 oed Ysgol Cathays. Yna’r holl ddylanwadau cerddorol wrth i gerddorion o’r cymoedd dyrru i berfformio yn nhai potes a chlybiau’r Dociau yn y 70au a’r 80au, law yn llaw â’r dylanwad reggae cryf megis Jamaica fach. A dylanwad siop recordiau enwog Spillers yn yr Aes, sy’n dal yn rhan o chwedloniaeth Caerdydd heddiw. Yn gefndir i’r sgwrs, gwelsom luniau o’r Dociau mwdlyd mewn cyferbyniad llwyr i’r Senedd sgleiniog heddiw. Mae artist arall wedi cofleidio byd newydd, artiffisial, y Bae, a’r holl gyfleoedd a ddaw yn ei sgil. Ar ôl dysgu’i chrefft dros y ffin a gwerthu darnau o’i gwaith yn yr UDA a Dubai, mae’r gof Nia Wyn Jones wedi dychwelyd i’w dinas enedigol. Dywedodd fod y cyferbyniad rhwng ei magwraeth gyfforddus Gymraeg a’i stiwdio o dan bont reilffordd yn ardal fwy gwerinol Butetown yn ei siwtio i’r dim. Ond mynegodd dristwch o golli’r hen gyflenwyr a chynhyrchwyr metelau lleol, a thrwy hynny, colli treftadaeth gyfoethog yr hen ddinas. Bellach, mae’n gwneud bywoliaeth trwy greu addurniadau coeth ar gyfer fflatiau a phentai dros ben llestri o ddrud y Bae.

Mae un o’r dinasyddion cyfoethog hynny yn serennu yn The Charlotte Church Show (Channel 4) bob nos Iau, mewn cawl potas o gomedi anweddus, sgetshis mwy anweddus, a gwesteion lled-enwog. Nid Beti George na Michael Parkinson mohoni, ond mae ganddi apêl fel cyflwynwraig ddi-lol. Un sgetsh ddoniol oedd Catherine Tate yn gorfod dyfalu beth oedd ryw hen fodryb yn ei ddweud wrth regi a diawlio’n Gymraeg! Ac mae cyn-ddisgyblion Glantaf wrthi’n hyrwyddo darllediadau cynhwysfawr o’r Eisteddfod ar y Bîb, boed yn Hampstead neu Hollywood Hills. Chwarae teg i Gethin Jones, mae’r Brifwyl wedi cael mensh ar ei raglen radio fore Sadwrn ar Five Live, ac mae’n siŵr y bydd lluniau o Matthew Rhys (Matthew Taf) yn y wisg wen yn harddu tudalennau’r tabloids a’r cylchgronau clecs.