Chwa o awyr iach?


Os ydych chi’n casáu chwaraeon, rhowch gorau i ddarllen rŵan. Achos mae gen i damaid o newyddion a wnaiff gadw llinellau ffôn Taro’r Post yn eirias am rai dyddiau. Oes, mae mwy o raglenni byd y campau i ddod ar S4/Chwaraeon yn y dyfodol agos. Ac nid rygbi’n unig chwaith, cyn i’r pêl-droedwyr o’ch plith ddechrau cwyno am obsesiwn pen bandits Parc Tŷ Glas â’r bêl hirgron. Digon teg, mi fydd bois (Awstralaidd) rygbi’r gynghrair o Ben-y-bont ar Ogwr yn cael mwy na’u siâr o sylw gan Y Clwb Rygbi 13 nawr ac yn y man. A neithiwr, dechreuodd cyfres newydd sbon o Golffio gyda Jonathan Davies a Dewi Pws, fel rhan o baratoadau’r sianel tuag at gystadleuaeth Cwpan Ryder Cymru… ymhen dwy flynedd! Ac mae S4C wedi ennill cytundeb i ddangos gêmau criced Morgannwg yn fyw o 2010 ymlaen. Swydd fach neis i Robert Croft ar ôl ymddeol efallai? Dim ond gobeithio gawn nhw dywydd i ddarlledu oriau bwygilydd o Erddi Soffia, neu ailddarllediadau bwygilydd o’r Tŷ Cymreig fydd hi! Felly, mae’n ymddangos fod S4C yn ennill cytundeb ar ôl cytundeb o hawliau darlledu chwaraeon, pan fo’r BBC yn colli rhai nhw cyn gyflymed â Rwsia yn colli’i ffrindia byd-eang.

Os ydi’r campau hynny braidd yn ddiflas o draddodiadol i chi, gallwch wastad droi i wylio Chwa! (Boomerang) am ddôs o chwaraeon eithafol ddwywaith yr wythnos. Neu chwaraeon gwirion, gan ddibynnu ar eich barn am syrffio, eirafyrddio a beicio mynydd. Fel yr esboniodd y gyflwynwraig Alex 'Sialens' Jones o ryw garej sinc o stiwdio, y nod yw cyflwyno’r goreuon o bedwar ban byd, a sgwrsio gyda gwesteion arbennig sy’n hyrwyddo’r campau dros ben llestri hyn yn nes adref. Yn anffodus, mae ôl rhaglen rad uffernol ar hon sy’n dibynnu’n fawr ar fenthyca lluniau gan gwmnïau teledu tramor. Er cystal oedd campau acrobataidd y beicwyr BMX ym Milano, lladdwyd unrhyw arlliw o gyffro gyda throsleisio ffeithiol a llafurus Rhodri Davies. Gydag ychydig bach mwy o ddychymyg, gellid fod wedi defnyddio graffeg ar y sgrîn i gyflwyno ffeithiau difyr am y gamp hon i newydd-ddyfodiaid fel fi. Roedd y golygfeydd o’r eirafyrddwyr ifanc yn hyrddio ’lawr y llethrau-gneud yn Stadiwm Olympaidd Munich yn drawiadol, ond roedd y darn am seremoni wobrwyo ‘Oscars’ y syrffwyr yng Nghaliffornia yn drewi o eitem ‘llenwi pum munud ola’r rhaglen’. A pham, o pam, bod angen boddi cyfweliad Alex â Mark Thomas, rasiwr motorcross o Sir Gâr, gyda seiniau gitârs trwm Anhrefn-aidd yn y cefndir?

Ond dyna ni, cyfres i’r kids cŵl yw hi i fod debyg. Sticia’ i at rygbi a golff.

Dim cyllideb, dim top i Alex?