Hel tai a Tosh


Mae nos Fercher ar S4C yn debyg i’r fersiwn Cymraeg o sianel loeren UKTV Style. Ar ôl i Nia Parry fusnesu drwy gypyrddau dillad y genedl, mae Aled Sam yn gwneud yr un peth drwy dwll bach y clo. 04 Wal yw’r ffefryn personol yma, ond am y tro, rhaid bodloni gyda’r chwaer gyfres Y Tŷ Cymreig (Fflic, nos Fercher) gyda Minti’r ci… o, a'r Dr Greg Stevenson hefyd wrth gwrs!

Tai gogoneddus Meirionnydd oedd dan sylw’r tri theithiwr yr wythnos hon. A sôn am ddewis. Yn gyntaf, Neuadd Aber Artro ger Llanbedr - hongliad o dŷ Tuduraidd ei naws a godwyd fel tŷ haf i deulu cefnog o Dde Affrica yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymhell cyn dyddiau’r ‘cawdel credyd’ felltith! Yna, ymlaen i Blas y Dduallt, Tan-y-bwlch, tŷ carreg llawn cymeriad o’r 1500au a berthynai i ddisgynyddion neb llai na Llywelyn Fawr, a lein fach Ffestiniog yn mynd heibio’r ardd gefn. Dywedodd y perchennog mai’r peth gorau am ei gartref diarffordd oedd gweld y golygfeydd godidog wrth godi bob bore. Digon teg, wrth i’r camera dremio ar Eryri. Bechod fod pwerdy Trawsfynydd i’w weld yn hyll o glir drwy un o’r ffenestri hefyd. Draw yng Nghorwen, daeth Aled Sam ar draws plasdy ger y man lle crogwyd Gwilym Brewys yn sgîl ei fisdimanars efo’r Dywysoges Siwan yn ôl y sôn. Ac nid dyna’r unig gysylltiad brenhinol â Chrogen Hall chwaith, gan i’r Frenhines Victoria aros gyda’r teulu yn ystod ei theyrnasiad. A gan na chawsom gyfweliad gyda’r teulu presennol, roedd rhywun yn tybio mai di-Gymraeg oeddynt. Mae hwn yn dric nodweddiadol y gyfres. Dim Cymraeg? Dim cyfweliad gydag Aled Sam. Ar y llaw arall, braf oedd cael gair gydag un o ddisgynyddion Hedd Wyn yn ffermdy’r Ysgwrn i gloi’r rhaglen. Er ein bod yn hen gyfarwydd â’r lle arbennig hwn, dim ond cip sydyn o’r Gadair Ddu enwog a gawsom. I mi, mae aelwydydd gwerinol fel hyn ganmil difyrrach na thai crand rhyw bendefigion dŵad.





Yr Ysgwrn, Traws - cartre'r Gadair Ddu

Nos Sadwrn, daeth criw Sgorio (Rondo) ag uchafbwyntiau gêm Azerbaijan inni. Os uchafbwyntiau hefyd. Bellach, mae Gareth Roberts wedi’i ddisodli gan gyflwynydd newydd o fyd Planed Plant. A diawch, roedd Alun Williams yn edrych fel hogyn ysgol ochr yn ochr â Dai Davies, oedd ag wyneb tîn fel Gordon Brown wrth ladd ar dactegau’r rheolwr. Wn i ddim beth ar y ddaear oedd Phil Mitchell Eastenders yn ei wneud yn y stiwdio chwaith, nes sylweddoli mai John Hartson oedd o go iawn. Prawf nad yw bywyd yn glên i ambell cyn-chwaraewr rhyngwladol.