Profiad Bythgofiadwy!!


Mae yna draddodiad hir a balch o sioeau cwis Cymraeg ar y teledu. Neu hir o leiaf. Pan oedd Gareth Roberts a HTV yn tra-arglwyddiaethu ar raglenni cwisiau’r 80au, dwi’n cofio ffonio cystadlaethau Cyfle Byw bob nos Sul. Ac roedd cwestiynau-mewn-rhigymau Jacpot wastad yn codi gwên amser swper bob nos yn y 90au, a Kevin Davies yn ddigon craff i’n hatgoffa nad Mensa mohoni ac i beidio â chymryd y cyfan o ddifrif. Ffefryn arall oedd Gair am Aur gyda Llion Williams a chystadleuwyr peniog y chweched dosbarth (i fod). Ond gwell anghofio am ymgais Siân Lloyd i arallgyfeirio o’r swyddfa dywydd trwy gymryd Risg i fyd y sioeau cwis.

Does dim perygl i hynny ddigwydd gydag ymgais ddiweddaraf S4C i adfywio’r genre. Does dim cynulleidfa stiwdio, felly dim angen creu awyrgylch ffals gyda pheiriant clapio. Mae 0 ond 1 (Al Fresco) yn cynnig cyfle i un enillydd lwcus - a dim ond un lwcus yn unig (dallt?!) - gipio hyd at £5,000 a “Phrofiad Bythgofiadwy”. Roedd rhaid disgwyl tan ddiwedd yr awr i weld beth oedd y “Profiad Bythgofiadwy” hwn, a ailadroddwyd yn gyson gan y cwisfeistr Morgan Jones. Ac wrth ei ochr, Nia Parry, a gerddai i fyny ag i lawr y stiwdio gyda’i meic fel athrawes mewn neuadd arholiad. Ac yn nhraddodiad gorau’r sioeau cwis, cafwyd trosleisio cawslyd gan Rhys ap William wrth gyflwyno’r cystadleuwyr i’r llwyfan.

Y dasg i’r 16 cystadleuydd oedd ateb cwestiynau amlddewis am wledydd unigol, o Gymru i Frasil i Jamaica. Dysgais sawl ffaith ddifyr – mai Rita oedd enw gwraig Bob Marley, a brodor o Bloemfontein De Affrica oedd JRR Tolkein (Lord of the Rings) cyn symud i Loegr yn 3 oed. Ac mai llysenw Barry John yw’r ‘Brenin’(!) Na, does dim angen llyncu’r Gwyddoniadur i wybod pob dim.

Ond mae un tro clyfar a Chymreig iawn yng nghynffon y gyfres, sef bod Cymro neu Gymraes oddi-cartref yn mynd ben-ben ag enillydd y stiwdio i’r rownd derfynol. Yn y rhaglen gyntaf, Alan Wyn Hodgson o Snowmass, Colorado oedd ceisio ennill tocyn am ddim i ddychwelyd adref i Lŷn. Dyma uchafbwynt comedïol y rhaglen i mi. Roedd o’n edrych fel petai wedi cysgu yn ei grys coch Cymru wrth ddarlledu’n fyw o’i loj ym mynyddoedd Aspen, a chyfaddefodd fod ganddo ben mawr ar ôl parti priodas y noson gynt. Fe’i gwelsom yn cyfieithu-esbonio i’w wraig benfelen pam roedd yn siarad â fodan benfelen ddieithr arall ar deledu cenedlaethol, a’i ymateb brwdfrydig o gael cwestiwn rygbi! Yn y diwedd, David o Wrecsam a orfu, gan adael Alan druan i ddychwelyd i’w wely i freuddwydio am Bwllheli bell.

Siom ges innau braidd hefyd. A’r wobr ariannol yn gostwng gyda phob ateb anghywir, £1,000 oedd hi’n diwedd. Ac wythnos yn rafftio yn Awstria oedd y “Profiad Bythgofiadwy” wedi’r cwbl. A minnau wedi disgwyl gwesty chwe seren yn Dubai. Efallai bod costau teithio’r gŵr camera a’r dyn sain i Colorado, a phris sbectol swanc Morgan Jones wedi llyncu cyfran helaeth o’r gyllideb.