2 am bris 1

Mae’n ymddangos fod pen bandits Parc Tŷ Glas wedi penderfynu manteisio i’r eithaf ar rai o enwogion Cymru a chael sawl rhaglen ohonynt dros y gwyliau. Fel siopau Woolies gynt, cafwyd sawl bargen 2 am bris 1. Ar ôl cyd-gyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol o Briordy Ewenni gyda Siân Cothi, cafodd Rhydian ‘Ffactor X’ Roberts ei raglen ei hun o’r enw, ym, Rhydian siwr dduw. Anghofiwch y ffaith ei bod fel hys-bys awr i’w record hir newydd sbon, roedd hi’n rhaglen ddifyr - wrth i’r camera ei ddilyn o Lundain i LA, Stadiwm y Mileniwm a ’stafell werdd Simon Cowell. Ac roedd i’w weld yn hen hogyn iawn hefyd, yn broffesiynol wrth berfformio ac ateb llythyrau’r ffans yng nghegin ffermdy ei rieni ym Mhontsenni. A doedd dim olion gwario’n ofer ar ddillad drudfawr na cheir cyflym chwaith…yn hytrach, fe gadwodd at ei air a phrynu darn o dir i’w dad. Bechod ei fod yn dal i fynnu gwyngalchu’i wallt hefyd. Mae’n rhaid inni gochion sticio hefo’n gilydd!

Seren sioe realiti a pherfformwraig brysur arall oedd Connie Fisher, rhwng Cyngerdd C Ffactor o Brifwyl Caerdydd, i Noson Lawen Llechwedd. Ar ôl serennu am fisoedd yn y West End, dyma hi yn ôl â’i thraed ar dir Cymru. Y drwg oedd mai ceudyllau oer, atmosfferig, dan grombil Blaenau Ffestiniog oedd hynny. Does dim gwirionedd yn y si fod y cwmni cynhyrchu yn bwriadu ffilmio o Wylfa neu ffwrnais Port Talbot yn y dyfodol.

Heb os, y digrifwr Tudur Owen gynigiodd y fargen orau i S4C. Roedd Sioe Dolig PC Leslie Wynne yn donic pur, a’r berthynas rhyngddo â Margaret Williams yn rhyfeddol o lwyddiannus – pan roedd y gantores o Fôn yn gallu stopio crio-chwerthin! A noson Calan, dyma Beryl, Cheryl a Meryl yn “mynd all the way” i gadw reiat yn Playa de las Américas megis Carry on Caernarfon. Roedd y mwyseiriau anweddus yn llifo fel jin a’r minlliw bron mor llachar â dannedd Gareth (Geraint Todd), cyffurgi a pherchennog y gwesty. Mae Tudur Owen, Iwan John a Rolant Prys yn haeddu medal am fentro i’r sgertiau tynn a’r sodlau uchel am gyhyd.

Yn olaf, gair sydyn am raglen ola’r hen flwyddyn, Wedi 2008. Fel yr awgryma’r teitl, roedd Angharad Mair a’i gohebwyr yn trafod uchafbwytiau’r flwyddyn trwy gyfrwng gwesteion a chlipiau o raglenni’r p’nawniau a’r nosweithiau. Neu ailddarllediad i chi a fi. Ac i’r rhelyw ohonoch na fentrodd allan i barti neu fferru mewn sioe dân gwyllt, ac nad oedd am weld Big Ben ar BBC nac Elton John ar ITV, roedd cynnig S4C yn sobor o sâl.

‘Wedi Rhedeg Allan o Syniadau’ tybed?