Cysgu efo'r Smurfs yn Athen



“Tydi amser yn hedfan?”


Dyna chi frawddeg sy’n arwydd o henaint, wrth i rywun ryfeddu ar dreigl amser. A chefais dipyn o syndod o ddeall fod 04 Wal, un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4/C, yn dathlu’r deg eleni. Wedi degawd o fusnesu trwy dwll bach y clo yng nghartrefi Cymru a thu hwnt, mae Aled Sam wedi arallgyfeirio i faes arall gyda chyflwynydd arall. Nid bod 04 Wal: Gwestai’r Byd mor wahanol â hynny i’r gwreiddiol chwaith, gan fod onglau camera celfydd Stephen Kingston a’r gerddoriaeth quirky yma o hyd. Ac mae Aled Sam yn dal i hoffi defnyddio’i hoff air Cymraeg, ‘baddondy’, bob gafael (a'r unig un am wn i!). Mae’r cyd-gyflwynydd newydd, Leah Hughes, yn diferu o steil fel pe bai newydd adael set Cwpwrdd Dillad. Ac mae’r cynllunydd mewnol o Ruthun yma i roi ongl fwy arbenigol a difrifol ar bethau o gymharu ag arddull tafod yn y boch Mr Samuel. Weithiau, dim ond weithiau, byddai'n braf gweld 'rhen Aled Sam sardonig yn rhoi barn ar ryw bapur wal bwygilydd. Does bosib fod popeth yn plesio. Wedi'r cwbl, 'sdim peryg o bechu perchnogion gwestai tramor ar raglen Gymraeg, yn wahanol i berchnogion tai Cymraeg eu hiaith.

Gwestai unigryw Rhydychen, Athen a Dubai oedd dan sylw’r wythnos hon, ac er na soniwyd dim gair am brisiau, go brin y byddai teulu cyffredin o bedwar yn gallu aros yno am fargen. Nid Travelodge a’u teips mo’r rhain. Roedd Malmaison Rhydychen yn drewi o bres, mewn adeilad a arferai ddrewi o bethau tipyn mwy anghynnes yn nyddiau carchar flynyddoedd yn ol. Er gwaetha’r côt o baent drudfawr a’r carpedi moethus, doedd dim modd cuddio’r ffaith bod rhywbeth reit iasol mewn cysgu mewn hen gelloedd. Fel y dywedodd Aled Sam, ceisio dianc oddi yma oedd nod pobl ers stalwm. Bellach, maen nhw’n fodlon talu crocbris i ddod yma am ddihangfa. Pawb at y peth…

Toedd yr ail westy, Baby Grand Hotel Athen, ddim at ddant pawb chwaith. O’r eiliad y cerddodd Aled a Lea i’r dderbynfa Austin Power-aidd â dau hanner Mini fel desgiau, roedd hon yn wrthgyferbyniad seicadelig llwyr i’r Acropolis. Gwelsom lofftydd ‘unigryw’ gyda’u themâu unigryw eu hunain o waith llaw artistiaid Groegaidd, o gelf graffiti i Spiderman. Hoffais sylw smala Aled Sam y byddai cysgu yn y llofft Smurfs fel cysgu mewn ysgol feithrin. Dychmygwch ystafell wely Sali Mali mewn gwesty pum seren yn Llandudno! Ond ffefryn personol y rhaglen oedd XVA Arts Hotel Dubai, cyfuniad o westy traddodiadol ac oriel gelf. Roedd gweld printiau pop Andy Warhol yn gymysg â chwiltiau a chyrtens lliwgar Indiaidd yn wledd i’r llygad. Braf gweld yr ochr draddodiadol, Arabaidd, i ddinas sy’n prysur droi’n Las Vegas yn y Gwlff.