Gwifren Gwylwyr



Mae peiriant Sky+ acw yn gwegian dan bwysau cyfres ddrama go sbesial y dyddiau hyn. Na, nid Pobol y Cwm. Mae omnibws y Sul yn diwallu hynny, pan alla’ i ddioddef swnian di-baid Anita. Cyfeirio ydw i at gyfres Americanaidd saith mlwydd oed a ddisgrifiwyd fel y rhaglen deledu orau erioed. Tipyn o ddweud. Ond ar ôl gwylio’r gyfres gyntaf ar BBC Two, a’r ail bron a darfod, does dim dwywaith amdani. Dwi wedi llyncu’r abwyd. Dwi’n gaeth i The Wire.

Fel llawer o gyfresi ‘cwlt’ yr US of A - 24, West Wing a Prison Break, roeddwn i’n lled-ymwybodol ohoni ond heb dalu fawr o sylw. Wedi’r cwbl, mae angen cryn amser ac amynedd i’w dilyn yn selog a nhwthau’n para 12-15 phennod yr un o gymharu â chyfresi dramâu chwe phennod Prydain. Diolch byth felly am Sky+, yn enwedig gan fod y BBC yn ei doethineb arferol yn mynnu'i dangos ymhell ar ôl i Huwcyn Cwsg fy nal. Ar yr olwg gyntaf, mae The Wire (pum cyfres 60 pennod, 2002-2008) yn swnio fel unrhyw gyfres dditectif arall. Ond yn wahanol i’r rhelyw ohonynt, nid dinasoedd sgleiniog a soffistigedig Los Angeles neu Efrog Newydd yw’r lleoliad, ond dinas Baltimore yn nhalaith Maryland. Dinas ddieithr i’r rhan fwyaf ohonom, ond sy’n dangos yr ochr arall, anffasiynol, i’r America fodern. Mae’n bortread epig, aml haenog, o ddinas sy’n dioddef yn sgil dirywiad yr hen ddociau diwydiannol, dinas sy’n cael ei rheoli gan gyffurgwn a gwleidyddion llwgr, dinas sy’n gartref i amrywiaeth cyfoethog o bobl dduon a gwynion o dras Wyddelig, Pwylaidd a Groegaidd. Dyw’r heddlu lleol ddim yn gwbl ddi-fai chwaith - fel y Ditectif Jimmy McNulty (Dominic West, brodor o Sheffield, a chwareodd ran Oliver Cromwell yng nghyfres ddrama wych The Devil's Whore ar Channel 4 yn gynharach eleni), cymeriad sy’n pontio pob cyfres. Er gwaethaf ei ffaeleddau personol - tor-priodas, goryfed - mae ei galon yn y lle iawn, ac mae’n benderfynol o sicrhau cyfiawnder i’w gyd-ddinasyddion. A chyda cyn-ohebydd cyfraith a threfn The Baltimore Sun a ditectif llofruddiaethau Heddlu Baltimore gynt yn gyfrifol am greu’r gyfres ar y cyd, does ryfedd fod hwn yn ddarlun cignoeth a gonest o’r America ‘arall’. Nid ei bod hi’n llethol o ddigalon fel Eastenders chwaith. Mae yma ddigon o hiwmor a gwir gyfeillgarwch sy’n codi uwchlaw problemau beunyddiol bywyd.
Dwi wrth fy modd. Ac mae tair cyfres arall i ddod eto…