Dy'n ni ddim yn mynd i Birmingham!



Arfon Haines - wyneb, a gwallt(!), enwog o orffennol HTV



Ar un adeg, roedd cantorion a chynulleidfaoedd Cymraeg yn cael eu cludo i stiwdios mawr Lloegr er mwyn darlledu rhaglenni byw yn ôl i Gymru - sefyllfa absẃrd fu’n sail i un o ganeuon cynnar y Tebot Piws. Ers hynny, codwyd stiwdios teledu digon ’tebol yng Nghaerdydd i ddiwallu’r angen hwnnw. Arferai byseidiau o bobl heidio i stiwdios HTV, ffatri adloniant ysgafn Cymraeg ers talwm i fwynhau Siôn a Siân a thoreth o raglenni Trebor a Caryl. Ond daeth tro ar fyd. Ar wahân i ambell eithriad fel sioe Shân Cothi, mae cyfresi sy’n cael eu ffilmio gerbron cynulleidfa stiwdio bellach mor brin â rhestr cardiau ’Dolig Gordon Brown. A heddiw, mae fel petai ITV Cymru’n dychwelyd i ddyddiau teledu du-a-gwyn trwy gamu’n ôl dros Glawdd Offa. Wrth i Elis Owen, Cyfarwyddwr ITV Cymru, roi’r ffidil yn y to ar ôl 30 mlynedd, cyhoeddodd pen bandits y rhwydwaith eu bod yn cyfuno swydd uwch-gyfarwyddwr Cymru â chwmnïau Granada a Central - penderfyniad sydd wedi denu’r och a gwae arferol o’r Bae. Dywedodd Alun Ffred, y Gweinidog Diwylliant, ei fod yn poeni’n arw am golli annibyniaeth y drydedd sianel, gan alw cyfarfod brys â Gweinidogion San Steffan (yn niffyg grymoedd ein Cynulliad Mici Mows ym maes darlledu). Mae hyn yn israddio ITV Cymru i statws rhanbarthol Lloegr, yw cri Alun Cairns AC. Ac yn ôl Geraint Talfan Davies, Cadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig, mae’n adleisio penderfyniad Trinity Mirror i lyncu papurau ‘annibynnol’ y Gogledd a’r De dan fantell Gogledd-orllewin Lloegr.

Yng nghanol tymor cneifio, mae’n gyfnod o docio mawr yng Nghroes Cwrlwys. Gwyddom eisoes fod rhaglenni ITV Wales News yn crebachu o 5½ awr i 3 awr yr wythnos, a bod rhaglen wleidyddol The Sharp End wedi cael y fwyell. Mae gwefan ITV Wales yn druenus o dlawd o gymharu â chynnyrch newyddion a chwaraeon ar-lein cyflawn Scottish Television ac Ulster Television. Mae annibyniaeth barn yn hollbwysig mewn cyfnod lle mae Llundain Fawr yn llywio cymaint o farn y wasg a’r cyfryngau. Cymharwch sefyllfa iachach y Gymraeg o ran gwefan Golwg360 (er gwaetha’r enedigaeth giami) vs BBC Cymru’r Byd.



Ydy gwasanaeth newyddion presennol ITV Wales ar fin noswylio am byth?



Os yw hi’n nos ddu ar newyddion Eingl-Gymreig y drydedd sianel, mae pethau’n dipyn mwy goleuedig ar y bedwaredd sianel. Wythnos diwethaf, gwelwyd mwy o fwletinau Newyddion Cymraeg nag erioed o’r blaen ar S4C amser cinio, te, swper a chyn noswylio. Mae hyn yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr, a’r amseru’n berffaith yng nghanol bwrlwm gwleidyddol San Steffan ac Ewrop. Ai dyma’r BBC Cymru yn dangos ei dannedd yn sgil y sïon bod S4C am fynd ar ei liwt ei hun wrth ddarparu gwasanaeth newyddion y dyfodol?