Llef un yn llefain


Mae’n dymor y Llewod unwaith eto, ac mae S4C yn barod amdani gyda llond cae o raglenni uchafbwyntiau a mwy. A pha ryfedd, gyda rhyw ddwsin o Gymry yn y garfan a Gerald Davies a Gatland wrth y llyw? Ychwanegwch daith Ryan Jones a’r criw i Ganada a’r Unol Daleithiau, ac mae ’na fwy na digon i blesio’r cefnogwyr cadair freichiau a hel y pêl-droedwyr i’r pyb. Mae’r arlwy eisoes wedi cychwyn gyda rhaglen arbennig O Flaen dy Lygaid: Llewod ’74, a’r fersiwn Saesneg The Lions’ Roar ar BBC One nos Sul diwethaf - yn olrhain taith lwyddiannus ond gythryblus y Llewod i Dde Affrica. Er bod Peter Hain’s y byd yn gweiddi’n groch yn eu herbyn, fe aeth y chwaraewyr rygbi yno i faeddu’r Springboks ar eu tomen eu hunain - ac ennill cefnogaeth y duon maes o law, fel arwydd o fuddugoliaeth dros eu gormeswyr gwyn. Aeth Gareth Edwards mor bell ag awgrymu iddynt blannu’r hadau ar gyfer chwalu’r drefn ddieflig honno ugain mlynedd yn ddiweddarach.

Wyddwn i ddim fod Carwyn James wedi protestio’n dawel yn erbyn apartheid, trwy aros yn yr ystafell newid wrth i’w dîm drechu’r Boks ar y Strade ym 1972. Mae’n un o blith nifer o ffeithiau diddorol a ddaw i’r fei yn rhaglen ddogfen Carwyn (Green Bay) nos Sul yma. Fel portread arbennig Jennie Eirian y llynedd, mae’n gyfuniad o ddrama - gydag Aneurin Hughes fel Carwyn yn ystod ei oriau olaf yn Amsterdam ym 1983 - lluniau a ffilmiau archif, a chyfweliadau gyda ffrindiau a chydnabod y gŵr o Gefneithin. Mae ei gydchwaraewyr fel Onllwyn Brace yn cofio’n gynnes am faswr ac ochrgamwr heb ei ail, a’r ffaith anffodus iddo chwarae dan gysgod Cliff Morgan ac ennill dim ond dau gap dros ei wlad. Eraill fel Delme Thomas, Capten Llanelli ’72-’73; John Dawes, Capten Llewod ’71; a chwaraewyr clwb Rovigo, yr Eidal; yn cyfeirio at hyfforddwr praff a thawel. Ruth Parry wedyn yn sôn amdano’n cyrraedd stiwdio radio Helo Bobol mewn côt fawr dros ei byjamas, ac yntau’n casáu codi ben bore. Ond mae cyfranwyr eraill yn sôn am ddyn preifat, sensitif ac unig iawn a oedd yn cadw’i fywyd a’i feddyliau personol iddo’i hun, yn enwedig ei rywioldeb amwys. Mae ymateb ei frawd Dewi, a’i diweddar chwaer Gwen, yn arbennig o drist. Mae’r sigarét, y botel jin a dripian-dropian y bath yn ddelweddau cryf gydol y rhaglen, a sgript T James Jones a Dylan Richards yn gynnil o bwerus. Ond fel pob rhaglen debyg, ni chawn atebion pendant erbyn y diwedd. Ac mae enigma Carwyn James yn parhau.

-------------------------------------------------------------------------------------------------