Unwaith eto 'Nghymru annwyl?



Does unman yn debyg i gartref. Ac roedd fersiwn Gwyneth Glyn yn gyfeiliant addas iawn i hanes Morisiaid Caehir, Llanrhaeadr-ym-mochnant. Yn O Flaen dy Lygaid: Adre, dychwelodd Beti George i olrhain hanes teulu a ymfudodd i ffermio yng Nghanada ddeng mlynedd yn ôl. Wel, ddim yn hollol chwaith. Tra cododd y rhieni a’r mab ieuengaf eu pac i wastadeddau ffrwythlon (diflas?) Alberta, aros adref ym mro’r Berwyn wnaeth eu tair merch ifanc. Roedd camerâu’r BBC yno i gofnodi’r ffarwel olaf ym 1998, a’r dagrau o lawenydd yn 2008 pan ddaeth Goronwy, Gwenda a’u merched Eleri, Awel a Nesta at ei gilydd am y tro cyntaf ers degawd ym mhriodas eu mab Emyr â Cyndi.

Yn y rhan gyntaf, dychwelwyd i’r rhaglen wreiddiol ar ddiwrnod gwerthu Caehir yn sgil diflastod dyledion, baich biwrocratiaeth a BSE. Roedd Gron wedi cael hen lond bol, ac am ddechrau o’r newydd mewn gwlad newydd. Cyfaddefodd Gwenda iddynt grio a ffraeo sawl tro ar y mater, a’i bod wedi gorfod penderfynu rhwng y “merched, nain neu’r gŵr” - cyn dewis cefnogi Gron a dyfodol eu mab 15 oed. Roedd y rhieni-yng-nghyfraith yn methu’n glir â derbyn y mudo mawr, a’r ferch ieuengaf yn poeni’i henaid am unigrwydd ei mam ar gyfandir arall. Tra byddai Emyr a’i dad yn gwmni i’w gilydd ar eu fferm newydd, “sgin mam neb” meddai. Am ddewis torcalonnus.

Yn yr ail ran a’r drydedd ran, gwelsom y tri’n dechrau setlo yn Alberta wrth weld eu cartref pren newydd yn cyrraedd ar gefn lori megis fflatpac IKEA. Roedd y camerâu yno yn y flwyddyn 2000 hefyd, gyda Gwenda wedi addurno’r dresel â llestri te a lluniau’r plant cartref fel atgofion o’r “henwlad”. Cyfaddefodd iddi gymryd hyd at bum mlynedd i ddod i arfer â’i chynefin newydd, a’i bod wedi gorfod rhoi’r gorau i chwarae tapiau John ag Alun yn y car i leddfu’r hiraeth mawr. Call iawn.

R
oedd gwahaniaeth trawiadol rhwng ymateb y dynion a’r merched. Tra bod Gwenda’n Gymraes oddi cartref ystrydebol (“mae gen i ddau adre. Adre fa’ma, ac adre dros y dŵr”) roedd yr hogiau’n dipyn mwy cignoeth a realistig. Doedd dim blewyn o sentiment yn perthyn i Emyr. Trwy briodi merch o Ganada, dywedodd ei fod ymroi’i hun yn llwyr i’w wlad fabwysiedig, yn swnio a meddwl fel ‘Canadian’, ac am fagu’i blant yn Saesneg. Go brin y’i gwelwn yn wylo fel Niagara Falls gydag alltudion eraill ar lwyfan Prifwyl y dyfodol.

Yn y diwedd, roedd y rhod wedi hanner troi ar deulu’r Morisiaid. Bellach, mae Nesta’r ferch yn bwriadu ymuno â nhw gyda’i gŵr a’r bychan, Jac, gan roi ailwynt i Taid a Nain Canada a edrychai’n iachach a ’fengach nag erioed. Ac ar ôl y chwalfa fawr, mae teulu Caehir bron yn gyflawn unwaith eto.


Bechod mai Canada sydd ar ei hennill.