Hiraeth yr haf


Mae’n swyddogol. Mae’r haf wedi cyrraedd. Mae’n dymor Wimbledon, arogl barbeciws yn yr awyr, a’r haul yn llai swil na’r llynedd. Ond yr arwydd pennaf yw arlwy’r bocs bach. Neu ddiffyg arlwy. Oherwydd dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae comisiynwyr a chynhyrchwyr teledu’n gorfeddian ar draeth yn Dubai a’n gadael ni feidrolion dlawd adref i fwynhau’r un hen bethau ar y bocs bach. Ac mae’n debyg y cawn ni yn oed mwy na’r arfer ar S4C eleni, wrth i’r Dirwasgiad Mawr roi taw ar Seshus Mawr Dolgellau a'r Faenol. O leiaf bydd gennym ‘uchafbwyntiau’ Eisteddfod yr Urdd a Phrifwyl y Bala. A Martha, Jac a Sianco (enillydd chwe gwobr BAFTA Cymru, wyddoch chi?!). Iawn, mae’r ffilm dywyll hon yn werth pob cwpan aur, clod a bri a ddaw i’w rhan, ond digon yw digon. Dyna farn glir pobl Llannerchymedd wrth Gadeirydd y Sianel, John Walter Jones, ar Hawl i Holi Radio Cymru wythnos diwethaf. Ond efallai ei bod hi’n bryd inni fod yn realistig a derbyn mai dyma ragflas o’r dyfodol digidol.


Wedi dweud hynny, MAE rhai pethau’n werth eu hailddarlledu. Ffilm Ibiza! Ibiza! (1986) er enghraifft, gyda Glenys a Rhisiart, Delyth a Bethan ‘Sdiwpid Piwpid’, Enfys a Lavinia – creadigaethau gwych Caryl Parry Jones. Cawsom glip sydyn ohoni ar raglen Cofio (ITV Cymru) nos Lun diwethaf, wrth i Caryl hel atgofion gyda Heledd Cynwal ac archifau HTV. Efallai bod Croes Cwrlwys mewn cawlach y dyddiau hyn, ond diawch, mae gynnon nhw ambell glasur o’r gorffennol. Gwelsom yr anfarwol Ricky Hoyw (Dewi Pws) yn mwrdro cyfieithiadau Cymraeg o ganeuon Nadoligaidd, a Spice Girls Cymru (Sidan) ym 1974. A chan fod Caryl yn un o genod y gogledd-ddwyrain, dyna esgus i ddangos yr arch-gwynwr Gwilym Owen yn cyflwyno adroddiad arbennig o’r Rhyl ym 1965 ynglŷn â diffyg Cymreictod tre’r “bingo, cwrw a tsips”. Ond yng nghanol yr hwyl a’r hiraeth braf, cafwyd rhyw bum munud difrifol wrth i Caryl fwrw bol a thrafod problemau clefyd y croen. Cyfaddefodd iddi gadw draw o Brifwyl Eryri bedair blynedd yn ôl pan roedd sgil-effeithiau’r steroid ar ei waethaf, er mwyn osgoi cwestiynau’r cyhoedd. Y wyneb cyhoeddus yn gorfod cuddio, felly. Ond buan yr anghofiwyd am hen broblemau diflas bywyd, wrth i Heledd Cynwal ddangos diffyg chwaeth yr 80au ar ei orau gyda chlip fideo ‘Shampŵ’ gan Bando.

Dyna ddigon o wylio am y tro. Mae’n bryd diffodd y sét deledu a manteisio ar dywydd siorts a sbectol haul!