Draig o hyder

Baneri'r Smithsonian gan Mary Lloyd Jones


Mae’r miri mawr diwylliannol drosodd am flwyddyn arall. Y pebyll wedi’u pacio, llanast wedi’i glirio, y stiwardiaid blin wedi dysgu sut i wenu eto, a phawb yn araf ddadflino. Ond nid y Bala sydd gen i dal sylw – er i mi dreulio deuddydd bendigedig yn fan’no, cyn i’r Pwyllgor Gwaith ffonio Taro’r Post eto i ladd ar y ’steddfodwrs soffa. Ond mae’n anodd ei dal hi ymhobman, Mr Pritchard, ac felly roeddwn i’n falch iawn o weld pigion Y Babell Lên a rhai o uchafbwyntiau Maes B ar Nodyn wythnos diwethaf.

Gŵyl fawr arall dros yr Iwerydd gafodd sylw’r Sioe Gelf, Cymru yn Washington. O! na, meddyliais. Roeddwn i’n barod i gael fy niflasu gan griw bach dethol, clicaidd, a gafodd wahoddiad i gynganeddu a cherdd dantio i Americanwyr di-glem yng nghysgod y Tŷ Gwyn - yn amodol ar basbort dilychwin wrth gwrs. Ond cefais fy siomi ar yr ochr orau gan gyfraniad Cymru i Ŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian, a sefydlwyd ym 1967. Cip tu ôl i’r llenni oedd y rhaglen hon, gan ddilyn Angharad Pearce Jones - cerflunydd, gof a thipyn o gês - yn rhinwedd ei swydd fel Cynllunydd Safle eleni. Nid tasg hawdd oedd ceisio codi waliau sych, gosod ffensys crawiau a chreu giatiau addurnol o amgylch y maes, gan frwydro yn erbyn amserlen go dynn, prinder adnoddau a chawod drom o genllysg! Roedd y gwaith gorffenedig i’w weld yn werth chweil. Yn wir, mae’n bechod na chafodd rhai o gynnyrch y Smithsonian ei arddangos ar stad Rhiwlas, fel baneri lliwgar Mary Lloyd Jones a’r pyst rygbi enfawr ger y fynedfa. Ac fe fyddai’r dreseli Cymreig a wnaed o blastig wedi’i ailgylchu (a edrychai’n well nag y mae’n swnio) wedi bod yn wych yn y Lle Celf eleni. Difyr oedd clywed ymateb ‘awesome’ dwy wraig ifanc o Philadelphia at Barti Cut Lloi, a gweld Bardd y Goron yn dysgu ‘Dau Gi Bach’ i griw o ymwelwyr. Roedd casgliad o gerddi Ceri Wyn yn effeithiol dros ben yn lle defnyddio sylwebydd gydol y rhaglen.

"Codi draig o hyder, ar sail y streipiau a'r sêr"


a


"...Pan glyw Potomac acen cerdd dafod hynod o hen"


Yn wir, fe fyddwn i wedi hoffi gweld mwy o gynnyrch y Smithsonian a llai o’r Sioe Fawr. Mae S4C yn dechrau godro’r syniad hon yn hesb bellach. Wedi rhaglen gyfan am brysurdeb y bore bach ar y maes, mae mwy i ddod am gneifwyr a stiwardiaid Llanelwedd. Does dim gwirionedd yn y si mai bois y lori gaca fydd dan sylw rhaglen ola'r gyfres…