Mwy na Volvos ac IKEA


Calzaghe a'i gymar dawnsio, Kristina Rihanoff

Mae tymor y sothach teledu ar ein gwarthaf. Mae gornest garioci flynyddol ITV wedi cychwyn, ac yn sicr o lenwi tudalennau’r tabloids tan y Nadolig. Mae’r cyfryngau Cymreig wedi mopio fod Joe Calzaghe yn ffansio’i hun fel tipyn o Fred Astaire wrth gystadlu yn erbyn cyn-gricedwr, actores hysbyseb grefi ar y teledu, ac actor Eastenders c.2001, ar sioe ddawnsio Bruce Forsyth ar y BBC. Ac mae S4C yn bygwth dilyn y llif trwy gyflwyno Fferm Ffactor, gyda Dai ‘Cowell’ Llanilar a Daloni ‘Minogue’ Metcalfe wrth y llyw. Dwi’n gweddïo ac yn gobeithio i’r nefoedd nad yw hi cynddrwg â’i theitl erchyll.

O leiaf mae ambell berl yng nghanol y moch o hyd. Fel y soniais eisoes, mae’r peiriant Sky+ acw wedi gwegian dan bwysau cyfres Americanaidd orwych The Wire dros yr haf. Ar ôl cael blas ar y tair cyfres gyntaf, mae’r bedwaredd, sydd wedi’i gosod mewn ysgol uwchradd yn ardal ddifreintiedig West Baltimore, yn aros amdanaf. Yn y cyfamser, mae BBC2 newydd ddechrau darlledu’r bumed gyfres - a’r olaf - sy’n canolbwyntio ar swyddfeydd papur newydd The Baltimore Sun. Gyda 23 o benodau i’w gwylio eto, o leiaf bydd ’na ddewis amgenach i sothach y tair sianel arall am sbel.


Ffefryn mawr arall ar hyn o bryd, yw’r gyfres dditectif Wallander o Sweden (nosweithiau Llun am 9pm, Yellow Bird Productions ar gyfer BBC Four) wedi’i seilio ar lyfrau poblogaidd Henning Mankell. Efallai’ch bod yn fwy cyfarwydd â fersiwn Syr Kenneth Branagh a gafodd glod a bri a BAFTA fel ‘cyfres ddrama orau’ 2009. Er gwaetha’r perfformiadau caboledig a’r gwaith camera graenus, roedd hi’n llawn paradocsau rhyfedd. Ar un llaw, roedd hi fel petai’n sgrechian ‘Sweden!’ gyda golygfeydd hir o’r Wallander llwydaidd yn gyrru Volvo XC70 sgleiniog i’w orsaf heddlu IKEAidd yn nhref Ystad; ac ar y llaw arall, yn llawn cymeriadau ag acenion Eton i blesio’r gwylwyr Ewrosgeptig. Mae’r fersiwn wreiddiol o Sweden yn well o lawer, yn enwedig portread Krister Henriksson o Kurt Wallander ag ôl gwynt main y Baltig ar ei wyneb. Ac fel pob ditectif teledu gwerth ei halen, mae ganddo lond berfa o broblemau personol - tor-priodas, diabetes, y botel wisgi a diffyg cyfathrebu’n iawn â’i ferch Linda, sydd hefyd yn aelod o’r heddlu. Roedd pennod wythnos diwethaf yn hynod o gyfoes, gyda cheiswyr lloches o Irac yn gelain yng nghefn lori wrth gael eu dal yng nghanol masnach gyffuriau draws-Ewropeaidd. Ond toedd hi byth yn feichus, gyda dôs o dynerwch a chariad gwirioneddol i leddfu’r felan Lychlynnaidd.

Fantastisk!

Ola Rapace (Stefan Lindman), Krister Henriksson (Wallander), Johanna Sällström (Linda Wallander)
Un troednodyn trist. Cyflawnodd yr actores Johanna Sällström hunanladdiad ym 2007, a hithau dim ond yn 32 oed.