Plismyn Drama



Ditectif da! Bechod am cliche'r pwll glo...


Dwi’n sgit am lyfrau a dramâu ditectifs erioed. Dwi’n cofio cael fy swyno’n lân gan lyfrau antur Gari Tryfan yn fy arddegau, a chael fy siomi’n llwyr gan fersiwn ffilm S4C ddydd Calan 2008. Ac eithrio cymeriadau cofiadwy fel Sarjant James a Glan Morris Pobol y Cwm, a chyfres ddrama Y Glas ddiwedd y 90au, go dlawd yw hi o ran plismyn drama Cymraeg. Yr unig enghraifft arall sy’n dod i’r cof yw DI Noel Bain (Philip Madoc) yng nghyfres Yr Heliwr a’r fersiwn gefn-wrth-gefn A Mind to Kill (1994-2004). Llwyddodd y rhai diweddarach i ddenu cynulleidfaoedd ehangach ar Sky 1 a Channel 5, ac mae’r gyfres gyntaf chwe phennod ar gael mewn pecyn DVD bellach. Yn ogystal â’r berthynas gythryblus rhwng Bain a’i ferch Hannah (Ffion Wilkins) a’r awgrym o ramant rhyngddo â’r patholegydd Margaret Edwards (Sharon Morgan), y golygfeydd tywyll a’r glaw di-baid, rwy’n dal i gofio arwyddgan syml y ffliwt a yrrai ias i lawr fy nghefn. Tybed gawn ni ailddarllediad ohoni pan fydd S4C yn gyfan gwbl ddigidol yn yr hydref?

Am y tro beth bynnag, rhaid bodloni ar gyfresi ditectifs yr iaith fain, ac unwaith eto, mae’n cefndryd Celtaidd yn rhagori arnon ni. Mae Rebus yn seiliedig ar nofelau poblogaidd Ian Rankin yng Nghaeredin, a Taggart o Glasgow yn enwog fel cyfres dditectif hynaf y byd (1983-?) . Yn anffodus, mae’r naill wedi cael y fwyell gan ITV a’r llall mewn perygl ers i’r drydedd sianel gyhoeddi dyledion o £2.73 biliwn y llynedd. I selogion fel fi, byddai’n MURRDERRRR go iawn petai DCI Matt Burke a’i dîm yn diflannu!

Efallai y daw achubiaeth o Iwerddon. Nos Sul diwethaf, dechreuodd cyfres dair-rhan newydd Raidió Teilifís Éireann, Single-Handed, ar ITV, sy’n edrych yn addawol iawn. Oes, mae yna olygfeydd trawiadol o dir a môr Conamara, ond chwalwyd unrhyw ofnau am Ballykissangel arall yn rhacs yn y bennod gyntaf wrth i’r Sarjant Jack Driscoll ddychwelyd adref o Ddulyn i wynebu llofruddiaeth merch ddŵad o ddwyrain Ewrop, hen gardaí llwgr (gan gynnwys ei dad) a llosgach, ar ei liwt ei hun. Mae cyfrinachau’r brodorion mor drwchus â’r niwl sy’n cau amdanynt a’u cynefin corsiog. Nid Heartbeat mohono, diolch i’r drefn. A gallai’r cyfan fod wedi’i gosod yn Eryri’n ddigon hawdd, o gofio fod yr awdur o Lundain, Barry Simner, bellach wedi ymgartrefu yn Llanegryn Meirionnydd.
Mae'r hen sinig ynof yn dweud bod cyfres ddrama o'r Ynys Werdd yn haws i'w marchnata i weddill Prydain a thramor...