Prifddinas y Pethe


Mae llygaid y byd Cymraeg ar brifddinas y Pethe yr wythnos hon. Ac fel y Sioe Fawr o’i blaen, mae S4C yn darlledu oriau di-ri i’r rhai nad ydynt am dalu crocbris i gerdded rownd Maes mwdlyd na gwario ffortiwn ar banad a byrgyr symol. Eleni, mae dau enw o orffennol darlledu, Arfon Haines Davies a Sara Edwards - a ddiorseddwyd mor warthus o ddesg Wales Today gan Lucy Lân - yn rhoi sylwebaeth Saesneg i ddarllediadau byw ar wefan BBC Wales am y tro cyntaf erioed. Ar ôl Cyngerdd Agoriadol nos Wener gyda Chôr Godre’r Aran a Mark Eurovision Evans mewn Pafiliwn syndod o chwarter gwag, dyma edrych ymlaen at y ’Steddfod go iawn fore Sadwrn diwethaf - gan ddechrau gyda Brecwast Bala bob dydd am 9 o’r gloch. Fel arfer, dwi’n barod i gwyno am arferiad S4C o ailgylchu’r un hen bennau i gyflwyno rhaglenni - ond diawch, mae Morgan Jones a Mari Lovgreen yn cael cystal hwyl arni nes ’mod i’n barod i faddau am y tro. Y gwesteion cyntaf oedd Elfyn Llwyd AS (dim cwestiynau am dreuliau Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, diolch yn fawr) a Mark Evans (ffefryn mawr y Sianel eleni, gan fod Rhydian a Connie yn hen hen hanes erbyn hyn), Bethan Gwanas a Gai Toms, wedi’u gwasgu i hanner fawr frysiog. Byddai’n well gennyf gael rhaglen awr yn cynnig rhagflas o ddigwyddiadau’r dydd ac adolygiad o gigs neu ddramâu’r noson gynt. Fel arall, roedd oriau o gystadlaethau’r bandiau pres mor atyniadol â saga Jordan a Peter Andre.

Draw yn y brifddinas arall, mae bywyd yn prysur golli’i sglein. Ydy, mae cyfres ddiweddaraf Caerdydd (Fiction Factory), a gafodd seibiant nos Sul diwethaf oherwydd marathon y Gymanfa Ganu, yn dywyllach nag erioed. Erbyn hyn, mae realiti bywyd yn dechrau taro’r cymeriadau ar ôl ffeirio fflatiau swanc, disylwedd, y Bae a nosweithiau coke ym mar Cantina, am forgais, babis a meddyliau bregus. Mae Ceri a’i llygaid soser wedi’i heglu hi’n ôl i Lundain ar ôl clywed am orffennol gwaedlyd Peter, Osian yn gamblo dros Grangetown wrth i Kate ddengid i fyd ffantasi basg-a-sysbendars ei mam, ac Emyr yn brwydro yn erbyn bwlimia mwya’r sydyn o weld ei lojar/cyn-gariad Jamie yn sboncian i wely Sara.

Diolch byth, felly, am rywfaint o ysgafnder yng nghwmni’r gochen drafferthus Natasha (Ffion Williams) a’i chariad newydd, y chwaraewr snwcer proffesiynol, Dai Rees (Aled Pugh). Tipyn o ddweud am gymeriad a arferai fynd dan fy nghroen i yn y gyfres ddiwethaf.