Hir oes, HBO!



Dwi eisoes wedi canu clodydd BBC Four. Nawr, mae gen i ffefryn Americannaidd - Home Box Office, neu HBO - sianel deledu am dâl a sefydlwyd ym 1972, sydd a thros 38 miliwn o danysgrifwyr bellach yn yr UDA. Lwcus i ni yng ngwledydd Prydain, mae gan Channel 4 draddodiad hir o brynu’r goreuon gan HBO i’w gynnig. Tra bod dramâu teledu Prydain fel petaen nhw’n llifo o ffatri fflatpacs ditectifs-a-sebon-doctors-a-nyrsys, mae HBO yn dal i gynhyrchu cyfresi ffres a gwreiddiol i’r byd a’r betws. Diolch amdani! Bedair blynedd ers inni ffarwelio â’r hyfryd a’r hanner call a dwl Ruth, Nate, David a Clare Fisher - teulu o drefnwyr angladdau o Los Angeles a’u cyfoedion quirky yn Six Feet Under, mae’r awdur Alan Ball wedi creu True Blood sy’n prysur droi’n llwyddiant byd-eang. Ddylwn i ddim leicio hon, sef cyfres wedi’i seilio ar lyfrau The Southern Vampire Mysteries aka The Sookie Stackhouse Novels gan Charlaine Harris. Doedd gen i ddim math o ddiddordeb yn anturiaethau Buffy ar y teledu na’r myrdd o ffilmiau Twilight sy’n llenwi seddi’r sinemâu. Ond roedd Alan Ball yn glyfar yma, ac wedi creu cyfres sy’n gymysgedd gwych o opera sebon Twin Peaks-aidd llawn pishyns, sydd wedi’u dychryn i’r byw gan lofrudd sy’n taro ar ferched Bon Temps - a phawb yn pwyntio’u bysedd cyhuddgar ac am waed (bwm! bwm!) cymuned o fampirod lleol yn ardal Bon Temps, Louisiana. Diawch, mae hyd yn oed caffi-bar ‘Merlottes’ ganolog i’r stori fel ’Double R Diner’ Twin Peaks



Yn ogystal â stori garu ‘bachu neu beidio?’ rhwng Sookie Stackouse (yr hyfryd Anna Paquin o Ganada), gweinyddes ifanc ddiniwed a thelepathig, a Bill Compton (Stephen Moyer o Essex) fampir golygus 173 oed, mae’n dadlennu disgwyliadau pobl i’r dim, problemau lleiafrifoedd sy’n ceisio cael eu derbyn, yn ogystal â’r hen, hen, ragfarnau yn erbyn pwy bynnag sy’n ‘od’ yn llygad y gymdeithas. Mae eu perthynas fregus mewn trwbl o’r cychwyn cyntaf, gyda chymeriadau lliwgar fel pishyn y pentref Jason Stackouse (Ryan Kwanten, gynt o Home & Away) yn poeni’i enaid am ei chwaer Sookie, ei ffrind gorau a chegog Tara yn ysu i syrthio mewn cariad, a’i bós Sam Merlotte sy’n hiraethu am Sookie o bell. Ac yng nghanol hyn oll, mae ’na lot fawr iawn o chwysu a charu gwyllt, hiwmor ddu bitsh a chryn amheuaeth ynglŷn â phwy sy’n ddynol a phwy sy’n fampir - heb sôn am ddirgelwch y llofrudd. I'r dim, a ninnau ar drothwy noson Calan Gaeaf.

Gyda llaw, mae’r credits agoriadol, "Bad Things" gan
Jace Everett yn haeddu mensh arbennig hefyd!




Un arall o gynhyrchion HBO sydd wedi ffeindio’i ffordd i’r peiriant Sky+ acw ydy Hung, drama gomedi am Ray Drecker (Thomas Jane) athro ymarfer corff hoples o Detroit sydd ar ben ei dennyn. Mae pwysau’r byd ar ei sgwyddau ers i’w wraig a’i blant ei adael, ei swydd yn ei ddiflasu, a’i gartref teuluol wedi llosgi i’r llawr. A’i sefyllfa ariannol cyn waethed ag economi Gwlad yr Ia, mae ei ffrind Tanya yn llwyddo i’w ddarbwyllo i elwa ar GLAMP o nodwedd arbennig a phersonol iawn sydd ganddo (winc, winc, nyj, nyj). Dwi’n deud dim.




True Blood, 10pm nos Fercher, Channel 4
Hung, 10pm nos Iau, More 4