2.10.09

Vive la BBC4!


BBC Four yw fy hoff sianel ar hyn o bryd (sori S4C!). Mae hi’n werth y drwydded ar ei phen ei hun, bron. Dyma’r lle i droi am ddramâu tan gamp o Ewrop. Yn dynn wrth sodlau Wallander o Sweden, daw ail gyfres o Spiral (Engrenages) bob nos Sul, drama ias a chyffro sy’n dilyn criw o dditectifs a chyfreithwyr naturiol o rywiol (Ffrancwyr ydyn nhw, wedi’r cwbl) sy’n ymchwilio i ddirgelwch corff a losgwyd yn golsyn mewn car ar stad cyngor - a chysylltiad hynny, rhywsut rywfodd, â marwolaeth merch ifanc a gymerodd orddos o heroin yn un o ysgolion bonedd Paris. Mae ’na ryw naws CSI/The Wire yn perthyn iddi, sydd wastad yn ffon fesur wych. Ac er bod cryn dipyn o waith canolbwyntio i ddechrau, fel pwy ’di pwy, a’r ddeialog Ffrangeg gan-milltir-yr-awr sy’n gefndir i’r isdeitlau ar y sgrîn, mae’n werth dal ati.


D
wi’n fythol ddiolchgar i BBC Four am ailddarlledu The Crow Road bob nos Fercher hefyd, gan i mi golli’r darllediad gwreiddiol ym 1996. Wedi’i seilio ar nofel Iain Banks, mae’n adrodd hanes Prentice McHoan, myfyriwr ifanc (Joseph McFadden) sy’n dychwelyd i’w wreiddiau i ddatrys diflaniad sydyn ei ewythr. Rhwng clan cecrus, hiraeth am ffrindiau coll, phartis gwyllt ar lan y loch, dos o hiwmor du a golygfeydd godidog o’r ucheldiroedd, mae’n cydio’n syth bin megis 'Tartan' Twin Peaks. Mae’n rhan o thema This is Scotland y sianel i nodi degawd o ddatganoli, gyda chymysgedd o ffilmiau a dramâu, rhaglenni dogfen a thrafodaeth banel ar yr ‘A’ fawr - Annibyniaeth. Go brin y caiff Gymru gymaint o sylw, rhwng perlau'r presennol fel Crash (Neighbours efo nyrsys) a High Hopes: Best Bits (teitl eironig, dwi'n siwr!)...
Mae yna wledd o’n blaenau dros yr hydref hefyd, gyda phortread Sophie Oknedo o ferch gefn gwlad, ddiniwed, a ddaeth yn ymgyrchydd brwd a dadleuol yn erbyn apartheid, sef Mrs Mandela. Wedi’i ffilmio’n gyfan gwbl yn Soweto, mae’r ddrama’n cynnwys actorion profiadol fel David Harewood a David Morrissey. Un o uchafbwyntiau dogfen y tymor yw Digging Up The Dead a gyflwynir gan Michael Portillo, lle mae beddi torfol hyd at 4,000 o wrthwynebwyr Franco, cyn-unben Sbaen, yn ailagor hen grachod mewn gwlad sy’n ceisio claddu’i gorffennol am byth. Mae’n stori hynod bersonol i’r cyn-wleidydd Torïaidd, gan i’w dad ffoi o Ryfel Cartref ei famwlad i Loegr 70 mlynedd yn ôl.






Ac mae’n berthnasol i ninnau hefyd, o gofio’r 174 o Gymry a ymunodd â’r Frigâd Gydwladol yn erbyn y Ffasgwyr.