Llandudno-sur-Mer


Ooh la la! Mae yna naws gyfandirol i ddrama newydd nos Sul ar sianel TF1. Dechreuodd y cyfan gyda Audrey Tatou mor ciwt ag erioed, yn beicio o amgylch strydoedd tref glan môr ddechrau’r haf, cyn ymuno â llond tram hen ffasiwn o ffrindiau a pherthnasau siriol i briodas ei thad. Ac yn y canol, mae cryn dipyn o tête-à-tête a misdimanars rhywiol rhwng pishyns ifanc a genod chic i gyfeiliant acordion ysgafn. Ond howld on Now John… maen nhw’n siarad Cymraeg. Ac ai Penygogarth, Stryd Mostyn a Phier Llandudno ydi fan’no?! Sacre bleu?! Beth uffar sy’n digwydd?

Iawn, oce. Dyna ddigon o chwarae ar eiriau Ffrengig mewn acen Allo Allo-aidd amheus am y tro. Drama S4C ydi Blodau. Ac nid yr hyfryd Mademoiselle Tatou sy’n reidio beic â basgedaid o lilis gwynion, ond Lili (Rhian Blythe). Roeddwn i wedi drysu’n llwyr efo’r myrdd o gymeriadau a ymddangosodd yn chwarter cynta’r rhaglen gyntaf. Beiwch y cythrel Simon Cowell ’na. Roeddwn i’n gandryll efo fi’n hun am fod yn gandryll efo Cowell a’r criw am anfon Elin Fflur Pen-tyrch adre’n gynnar o syrcas garioci ITV, yn hytrach na’r ddau leprechaun sbigogfelyn didalent. Felly, pan ddaeth drama newydd Cwmni Da ymlaen, roeddwn i wedi drysu’n lân efo’r myrdd o gymeriadau a ymddangosodd yn chwarter cynta’r rhaglen gyntaf, ac yn chwys domen o gwestiynau. Pwy ’di pwy? Pam gythraul fod Carys Gurkha Tipyn o Stad wedi’i phlastro mewn basg-a-sysbendars ar hysbysfyrddau Lerpwl? Ac a fydd Dafydd Dafis yn canu ‘Tŷ Coz’ i gyd-fynd â thema Ffrengig anesboniadwy’r bennod?

Yn anffodus, dwi’n nabod sawl gwyliwr wnaeth roi’r gorau iddi ar sail y cyhoeddusrwydd cychwynnol heb sôn am y bennod gyntaf. Ond yn rhinwedd y golofn hon, trois i wylio’r ail bennod i geisio dallt y dalltings. Diolch am hynny, a diolch byth fod y cymeriadau’n dechrau ennill eu plwyf. Nos Sul diwethaf, roedd cyfeillgarwch bore oes Lili, Cat a Paul dan fygythiad ar ôl i Paul roi gormod o sylw personol i un o’i gleientiaid ffasiwn, yr über-ast Lucinda Barclaise (Gwenno Elis Hodgkins). Roedd digon o gymhlethdodau carwriaethol eraill i ddenu sylw, gyda Wyn, brawd Lili yn ceisio dianc o grafangau’r maffia lleol wedi bachiad un noson; a Dan (Siôn Wyn Fôn, wyneb newydd) y pencampwr rasio beics â’i deimladau’n pendilio rhwng ei gariad Jess (Fflur Medi Owen) a’i brawd o bysgotwr, Rich (Dyfrig Evans). Mae’n braf gweld doniau lleol fel Fflur Medi Owen ar y sgrîn, er bod mwy o stamp Waunfawr na West Shore ar acenion y cymeriadau. Ond y prif gymeriad, heb os, yw tref Llandudno ei hun, sy’n edrych mor ddeniadol â’r cast ifanc.

Un pwynt bach i gloi. Beth ydy’r obsesiwn gyda dinas Lerpwl? O leiaf bydd Dail y Post a D. Ben Reesiaid y byd yn falch o’r holl sylw a’r statws honedig fel prifddinas y gogs.