A'r enillydd yw...


Mae’n dymor y canmol a’r clodfori cyfryngol, wrth i’r rhai o fewn y diwydiant ddathlu llwyddiannau’r flwyddyn. O’r diwedd, cyhoeddwyd mai Giggs ydi Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru wedi wythnosau o hysbys syrffedus o ailadroddus ar Radio Cymru (fel diwrnod Plant mewn Angen fis diwethaf) a Newyddion, a bydd criw gorboblog Uned 5 yn Gwobrwyo’r Goreuon am y tro olaf cyn diflannu i archifau rhaglenni plant Cymraeg fis Mai nesaf.

Mae mwy o darianau wedi’u hychwanegu at ddreseli Llandaf a Pharc Tŷ Glas yn ddiweddar hefyd. Mewn blwyddyn anodd o golli gwylwyr, mae Pobol y Cwm yn llwyddo i blesio’r beirniaid dros Glawdd Offa beth bynnag. Cyrhaeddodd straeon Gwyneth Jones ac Iolo White (Dyfan Rees, sydd wedi ennill ei blwyf o’r diwedd ar ôl dechrau digon sigledig) restr fer ‘Darllediad y Flwyddyn’ gwobrau Stonewall, i rai wnaeth gyfraniad positif i gydraddoldeb pobl hoyw a lesbiaidd ym Mhrydain. Ond fe aeth y gyfres gam ymhellach yng Ngwobrau Iechyd Meddwl yn y Cyfryngau, a drefnwyd gan elusen Mind, ac ennill y categori ‘cyfres sebon’. Tipyn o gamp, a hynny yn erbyn “mawrion” Saesneg fel Eastenders. Llongyfarchiadau mawr i Catrin Mara am ei phortread o’r fam sengl, Nesta, yn dioddef iselder ôl-enedigol - portread a greodd gryn argraff ar un o’r beirniaid, Jimmy McGovern (awdur The Street, cyfres ddrama orau’r iaith fain yn 2009). A chroeso’n ôl iddi i’r Cwm yr wythnos hon, wrth i lanast priodasol Hywel a Ffion godi pryderon am les Lleucu fach ac amheuaeth ynghylch pwy ydi’r tad go iawn…





Rhaid cyfaddef fod llwyddiant rhaglen arall yn dipyn o syndod i mi. Enillodd Anrheg Nadolig Wil, ffilm deuluol Nadolig y llynedd, gategori ‘Drama’ yng ngwobrau BAFTA Plant Prydain bythefnos yn ôl. Rwy’n cofio’i gwylio a’i chael braidd yn fflat ac amaturaidd, yn rhy hir, a rhy Caryl Parry-Jonesaidd i mi’n bersonol. Ond pwy ydw i, y sinig tridegrwbath oed, i farnu chwaeth beirniaid bach a BAFTA? O leiaf mae’n esgus perffaith i S4C ei hailddarlledu rhwng Dolig a’r Calan o bosibl.

A f’uchafbwyntiau personol i yn 2009? Mae sawl cyfres ffeithiol yn aros yn y cof, o luniau trawiadol Iolo yn Rwsia i straeon dirdynnol Cymry Cymraeg o Kenya i Ganada yn O Flaen dy Lygaid. Ond ymateb cymysg yw hi o ran ffuglen. Er bod giamocs Teulu yn rhyfeddol o boblogaidd, Caerdydd wedi aeddfedu a Blodau yn wledd i’r llygaid, does ’na’r un gyfres wedi llwyddo i lenwi gwagle nos Sul ers inni ganu’n iach i Con Passionate flwyddyn yn ôl.