Iawn, boi?


Tydi 2010 ddim yn fis oed eto, ond dw i eisoes wedi gweld un o uchafbwyntiau teledu’r flwyddyn. Bethan Gwanas yn dysgu rhywfaint o Gymraeg i lond dosbarth o blantos Nigeria cyn eu tywys allan i’r awyr agored i gydganu a dawnsio’n wyllt i ‘Ddawns y Glaw’ gan Anweledig. Golygfa gofiadwy arall oedd hwnnw o griw mewn cit pêl-droed (Beth? Dim cit rygbi gan awdures Amdani?) Ysgol y Gader Dolgellau yn chwarae gêm fywiog iawn ar gae garw a llychlyd. Gallai’r gyflwynwraig a’r awdures werthu crysau-t “Iawn, boi?” neu “Asiffeta!” i gyd-fynd â’i dyddiadur newydd a gaiff ei lansio yn yr haf, yn seiliedig ar atgofion a phrofiadau arbennig Gwanas i Gbara. Croeso i’r cwmni anfon cyfraniad bach am yr awgrym…

Mewn cyfres ddwy ran, dychwelodd Bethan i’r pentref bach diarffordd hwnnw yn Niger State a greodd gymaint o argraff arni fel athrawes Saesneg i wasanaeth gwirfoddol dramor y VSO chwarter canrif yn ôl. Doedd rhai pethau heb newid dim, a dim sôn am gyfleustodau’r byd modern o hyd. Tipyn o gamp i griw ffilmio Telesgop, decini! Roedd hi’n dal i orfod teithio yno mewn canŵ, a’r pentrefwyr yn dal i ddisgwyl am drydan a dŵr tap. Roedd hen gartref concrid Bethan bron yn adfail, a’r hen ddosbarth y bu’n dysgu ynddo yn gragen wag. Ond diolch byth, roedd yna floc dosbarthiadau newydd yno bellach, lle cafodd Bethan y wefr o ddysgu am y tro cyntaf ers 1986. Ond y tro hwn, cyfaddefodd ei bod yn “nacyrd” ar ôl gweithio yn y gwres llethol. Ac roedd Bethan yn ddigon gonest i gyfaddef bod hyd yn oed y plantos gorfrwdfrydig a heidiai ati yn niwsans fel y mosgitos di-baid wrth iddi chwilio am gornel dawel i fyfyrio a ’sgwennu. Roedd hon yn rhywbeth amgenach na thrip Michael Palin-aidd yn unig - roedd hefyd yn siwrnai bersonol o boenus, wrth i’r gyflwynwraig grïo’n gwbl agored o flaen camera. Rhwng atgofion am Katie, ei chyd-athrawes Seisnig i’r carn a laddwyd mewn damwain car yn 24 oed, a’r euogrwydd o gefnu ar blant a oedd yn dibynnu cymaint arni am ddysg a dealltwriaeth o’r byd mawr, mi agorodd y llifddorau fwy nag unwaith. Hynny a’r cais syfrdanol gan gyn-ddisgybl arall wedyn, Omar, i “Miss Bethan” fynd â’i fab 14 oed yn ôl i Gymru gyda hi er mwyn gwella’i addysg. Sefyllfa gwbl amhosibl, heblaw i Fadonnas y byd wrth gwrs.

Pluen arall yn het rhaglenni dogfen S4C. Gwych.