Pedair wal Geltaidd


Prinder halen! Ffyrdd ar gau! Silffoedd siopau gwag! Oerach na’r Arctig! Disgyblion yn methu sefyll arholiadau! Jonathan Ross yn gadael y Bîb! Perygl i gyflenwadau nwy! Ydy, mae’r wasg a’r cyfryngau yn eu helfen yng nghanol hysteria’r rhew a’r eira mawr, ac yn pledu panig o bob cwr. Roedd darllenwyr newyddion pe baent wedi’u gorchymyn i switsio i’w stumiau mwyaf syber wrth adrodd am y diweddaraf o’r byd mawr gwyn. Diawch, roedd hyd yn oed Garry Owen yn chwerthin llai na’r arfer. Roeddwn i’n deffro am saith i glywed criw’r Post Cyntaf yn adrodd rhestr ysgolion y de oedd ar gau, ac yn gadael y tŷ awr yn ddiweddarach i restr ddi-baid ysgolion siroedd Fflint a Dinbych. O leiaf chlywson ddim mwy am faniffesto etholiadol David Cameron. Cefais fy nghorddi droeon gan ddarllenwyr newyddion mympwyol y BBC, a oedd yn mynnu dweud Sir Gaer am Cheshire yn hytrach na Swydd am shires traddodiadol Lloegr. Swydd Gaer dros y ffin, a Shir Gâr am y gorllewin gwyllt. Dyn â ŵyr beth oedd barn y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards am safon Radio Cymru'r dyddiau hyn, ond cafwyd teyrngedau hyfryd iddo gan yr orsaf dros y Sul - rhwng ailddarllediad o’i gyfweliad gyda’r dihafal Beti George ar Beti a’i Phobol o faes Prifwyl Llanrwst 1989, ac atgofion melys Dei Tomos a’i westeion cyn ailddarlledu ei ddarlith olaf o’r Bala y llynedd. Bydd chwith mawr heb ei gyfraniadau byrlymus i raglenni eisteddfodau’r dyfodol.





"Yec'hed Mat!"


Gyda'r gaea'n dal i frathu, mae’n naturiol meddwl am wyliau mewn gwledydd pell a phoeth. Neu ychydig yn nes adref, yn y dyddiau darbodus sydd ohoni. A dyna’r syniad y tu ôl i Tocyn, cyfres newydd sbon “sydd yn cynnig syniadau di-ri am wyliau difyr a fforddiadwy yn y rhanbarthau Celtaidd” yn ôl broliant y wefan. Dros yr unarddeg nos Fercher nesaf, bydd Aled Sam ac Alex Jones yn crwydro’r Alban, Iwerddon, Ynys Manaw a Chymru fach drosom ni. Y gyrchfan gyntaf oedd Llydaw, gwlad sydd wastad yn fy swyno wrth wrando ar Meic Stevens yn crwydro ar hyd Rue St Michel a Douarnenez. Yn anffodus, ni lwyddodd y rhaglen i’m sbarduno i ddal fferi yn y gwanwyn. Roedd Aled ac Alex yn mwynhau’u hunain gymaint nes anghofio amdanom ni’r gwylwyr gartref. Do, fe gawsom gipolwg sydyn iawn ar strydoedd culion godidog St Malo a Dinan, ond fe welsom llawer iawn mwy o Alex ym marchogaeth, Aled yn helpu i fwydo moch, a’r ddau yn cadw reiat mewn ysgol goginio. Roedd gormod o stamp y chwaer-gyfres, 04 Wal: Gwestai’r Byd, ar hon wrth i Aled Sam ein tywys o gwmpas y gîte ar fferm Bell Vue. A heb rifau ffôn na gwefannau defnyddiol ar ddiwedd y rhaglen na’r wefan, doedd dim modd cael rhagor o fanylion am y llefydd dan sylw.


Efallai ’mod i’n dal i hiraethu am ddyddiau Pacio