Plismyn Drama

Blwyddyn newydd, cyfresi drama newydd. Ydy, mae’r cliché am fysus yn wir. Rych 'chi’n aros tan Sul y Pys, ac yn sydyn reit, mae yna ryw hanner dwsin yn cyrraedd yr un pryd. Cyfresi ditectifs ydy’r rhan fwyaf ohonynt, a dwi wrth fy modd. Wrth gwrs, mae eu safon a'u sylwedd yn amrywio o’r gwych i’r gwirion, ond maen nhw'n dihangfa braf ar y soffa wedi diwrnod caled o waith. Y ffefryn personol ydy fersiwn Syr Ken Branagh o’r Llychlynnwr lleddf hwnnw, Wallander. Anghofiwch am y diffyg hiwmor, mae yma greu awyrgylch ffantastig, gyda’r golygfeydd sinematograffig, dow-dow, o dir a môr Sweden mewn arlliw parhaol o lwydfrown. Diawch, bron y gallwch deimlo gwynt main y Baltig yn mynd drwyddoch chi wrth wylio hon. Dim ond cyfres fer dair pennod gewch chi, felly cofiwch am yr olaf nos Sul nesa!

Nos Lun wedyn, mae un o lwyddiannau adran ddrama ITV (ydy, mae'r ffasiwn beth yn bod!) yn dychwelyd am ail gyfres, Law & Order UK, sy’n seiliedig ar gyfresi poblogaidd ugain mlwydd oed o’r Unol Daleithiau. Drama dwy ran ydi hi mewn gwirionedd - gyda’r hanner cyntaf yn dilyn ymchwiliad dau dditectif (Jamie Bamber a’r comedïwr Bradley Walsh, sy’n syndod o dda) i achos arbennig cyn arestio rhywun, a’r ail hanner yn olrhain yr achos hwnnw mewn llys barn (gyda Freema Doctor Who Agyeman fel y gyfreithwraig). Gyda stori unigol bob wythnos, mae’n ddelfrydol i’r sawl heb yr amser/awydd/amynedd i ddilyn saga dros chwe wythnos.
Nos Fawrth, mae ail gyfres Survivors yn dal i fyny efo criw o bobl (dosbarth canol, ystrydebol, braidd yn annoying) sy’n cecru, caru a rhygnu byw ar ôl i 99% o boblogaeth Prydain banicio i farwolaeth yn sgil eira drwg (jôc), naci, farw o feirws byd-eang. Lol botes wrth gwrs (ac eto…?), ond dihangfa lwyr am awran dda. Ac mae’n ymddangos fod y gyfres yn mentro i fyd Lost wrth i’r cymeriadau ddod ar draws cardiau post amheus sy’n cynnwys ddieithr. Os byddaf yn colli amynedd fel y saga Americannaidd honno â’i heirth gwynion ar ynys drofannol, gallaf wastad droi i Channel 5 am gyfres newydd o CSI. Yr un gwreiddiol, gorau, o Vegas wrth gwrs.
Nos Iau a nos Wener wedyn, mae hen ffefryn arall yn dychwelyd am drydedd gyfres ar ddeg. Ydy, mae trindod Silent Witness yn edrych mor glam ag erioed wrth daclo llofruddiaethau, anwybyddu pob rhybudd call a synhwyrol gan y glas, neidio i'r gwely efo rhai dan amheuaeth, a thorchi llewys gwaedlyd yn eu labordai gwyn-a-gwydrog über fodern. Mae’r plot mor dros ben llestri ag arfer, ond mae’n ddifyr ac yn edrych yn dda. A dwi eisiau fflat swanc fel un Harry Cunningham! Ac er bod Dr Sam Ryan (Amanda Redman) wedi hen adael y gyfres, mae parodi French and Saunders yn dal i godi gwên...