Bywyd a chyfresi newydd

Mae ’na si bod gwanwyn yn y tir o’r diwedd. Un cliw oedd rhaglen nosweithiol hyfryd Lambing Live ar BBC2, lle’r oedd y cyflwynydd brwd Kate Humble a llond sied o gamerâu yn dangos teulu’r Beavan yn ei chanol hi ar eu fferm yn Llandeilo Gresynni ger y Fenni. Rhyfedd na feddyliodd S4C am syniad tebyg cyn hyn, gyda Dai neu Daloni wrth y llyw. Ar y llaw arall, berig na fyddai’r cynulleidfa wledig, graidd, yn gwylio a hwythau dros eu pen a’u clustiau mewn brych a llaeth colostrwm – a ddim yn ffansio gweld yr un peth ar y bocs bach wrth gael paned a phum munud bach cyn y shifft nesaf.

Dechreuodd llu o gyfresi newydd i gyd-fynd â’r tymor newydd. Pethe yw’r rhaglen gelfyddydol ddiweddaraf (nos Fawrth am 8.25pm), gyda’r hen bennau eisteddfodol Rhun ap Iorwerth a Nia Roberts yn cyflwyno eitemau mor amrywiol o arddangosfa Kyffin i’r grefft o greu hen gwiltiau a sgwrs gyda’r Archdderwydd newydd. Digon difyr, heb os, ond llawer mwy ‘saff’ a chanol y ffordd nag arlwy arferol Sioe Gelf gynt. Mae ’na fwy o flas rhaglen gylchgrawn, diddychymyg braidd, yn hon. Gobeithio y bydd rhaglenni ategol Pethe Hwyrach yn gylch trafod diddorol a bywiog ar lun Newsnight Review – yn enwedig gan fod cyn lleied o gyfle i bwyso a mesur yn onest ffrwyth llafur ysgrifenwyr a chynhyrchwyr y genedl fach groendenau hon. Gobeithio y bydd ‘Clwb Darllen’ y gyfres yn dwyn ffrwyth hefyd, yn unol ag addewidion y wefan (www.s4c.co.uk/pethe).

3 Lle ydi teitl cyfres newydd nos Sul. Unwaith eto, fe wnes i gamsyniad wrth feddwl mai chwaer-gyfres 4 Wal (be' haru'r cyfryngis a rhifau, rhwng Taro 9, Wedi 3/7
) oedd hi, wrth i Aled Sam redeg allan o dai i sbecian drwyddynt wedi deng mlynedd. Beth gawson ni mewn gwirionedd oedd Cymry amlwg yn mynd â ni i dri lle (dallt?!) sy’n agos at eu calonnau. Roedd Tudur Owen yn ddewis da ar gyfer y rhaglen gyntaf, fel un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y Sianel. Un o’i ddewisiadau oedd Trefri, fferm y teulu ym Môn, lle dysgodd sut i wneud drygau a thyfu mwstash amheus ar y naw. Yr wythnos hon, cawsom ein tywys o amgylch trindod arbennig Ffion Hague – meini’r orsedd Castell Caerdydd, Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth, a Chatraeth, yng nghanol eira mawr Swydd Efrog.


Meddyliwch - gwraig darpar Ysgrifennydd Tramor San Steffan (a’n gwaredo) yn cofleidio brwydr waedlyd yr hen Frythoniaid yn erbyn y Sacsoniaid ddiawl yn y 6ed ganrif!

Mrs Hague yn datgelu mwy na'r bwriad?