Clwy’r Encyclopaedia Britannica

Yn gynharach eleni, mi soniais am gynlluniau uchelgeisiol BBC Cymru i agor stiwdios newydd sbon danlli grai ar gyfer Pobol y Cwm, Doctor Who a Casualty ym Mae Caerdydd, fel rhan o’r bwriad i ddyblu nifer y rhaglenni o Gymru ar rwydwaith Prydain erbyn 2016. Gwych, meddyliais, mewn ton o optimistiaeth ddechrau’r flwyddyn newydd. Mwy o gyfleoedd i sgriptwyr, actorion a chyfarwyddwyr Cymreig, a mwy o ddramâu cyffrous am y Gymru fodern i wylwyr Dundee, Dolgellau a Dagenham. Bedair mis yn ddiweddarach, mae clwy’ rygbi Cymru wedi cydio ynof. Wedi’r heip a’r gobeithion cychwynnol, dwi ddim mor hyderus bellach.

Nos Sadwrn diwethaf, daeth Doctor Who yn ôl i greu ias a chyffro i’r teulu cyfan, gyda Chaerdydd a’r cyffiniau yn smalio bod yn Llundain a phentref gwledig yn Swydd Gaerloyw. Ac er bod Matt Smith (Sais) a Karen Gillan (Albanwraig) wedi ffitio i’w rôl newydd yn ddidrafferth o dda, meddyliwch pa mor wych fuasai pe bai Cymraes yn gydymdaith i’r Doctor newydd! Wedi’r cyfan, roedd Gwen Cooper (Eve Myles) yn gymeriad tu hwnt o boblogaidd yn Torchwood. Yr unig stamp Cymreig sydd ar gyfres fythol boblogaidd nos Sadwrn yw logo BBC Cymru Wales ar ddiwedd bob pennod.

Ymddengys mai dyma fydd patrwm cyfresi drama BBC Cymru yn y dyfodol agos hefyd - actorion a chriw cynhyrchu yn croesi Clawdd Offa i ffilmio yn ne-ddwyrain Cymru. Cyn hir, bydd Royal Wedding, drama unigol 90 munud, i’w gweld ar BBC2 fel rhan o dymor o raglenni’r sianel am yr Wythdegau. Drama wedi’i gosod yng nghymoedd y De yw hon, lle mae’r teulu Caddock yn ceisio anghofio am galedi bywyd Thatcher trwy drefnu parti stryd i ddathlu priodas Charles a Di yn ystod haf 1981. Swnio’n ddifyr, er mai actorion o Loegr fel Jodie Whittaker a Darren Boyd sy’n chwarae’r prif rannau. Mae’n ddigon i wneud i’n hactorion cynhenid dagu ar eu Brains a thaflu’u cardiau Equity i ddyfnderoedd afon Taf mewn rhwystredigaeth lwyr.

Mae BBC Cymru newydd gychwyn ffilmio cyfres newydd arall ar gyfer y rhwydwaith - tair ffilm 90 munud yr un o’r enw Sherlock, sef ailbobiad cyfoes o dditectif chwedlonol Arthur Conan Doyle. Unwaith eto, awduron dŵad fel Steven Moffat (prif sgwennwr a chynhyrchydd newydd Doctor Who) a Mark Gattis sy’n gyfrifol amdani, a Chaerdydd yn gorfod smalio bod yn Llundain eto fyth. Ac yn olaf, mae BBC Cymru wedi ennill comisiwn i greu rhaglen beilot o’r enw Dappers, drama gomedi am hynt a helynt mamau sengl ifanc ym Mryste, ar gyfer BBC Three.

Gan aralleirio’r nodyn drwgenwog yn yr Encyclopaedia Britannica gwreiddiol – “For BBC Wales, see England”.