Rhaglenni'r bore fin nos


Dwi wedi drysu’n lân efo’r busnes troi’r awr. Mae’r adar yn canu yn nhywyllwch y bore bach wrth y ffenestr llofft, a dwi’n dal i gael trafferth newid cloc y car. Ac ar ben pob dim, mae rhaglenni’r bore i’w gweld fin nos ar S4C. Neu, dyna feddyliais wrth wylio Cyfnewid (8.25pm nos Fercher) - cyfres sy’n rhoi cyfle i bobl ffeirio eitemau diangen am ddim. Neu ffair sbarion ar y bocs, i chi a fi. Yn y rhaglen gyntaf, tro trigolion tre’r Sosban oedd clirio’u cypyrddau a’u hail-lenwi hefo mwy o bethau, o fideos Tomos y Tanc i hetiau priodas. A rhwng cyflwyniadau byrlymus Mari Løvgreen a Rhodri Williams, sydd wedi dychwelyd i’r gorlan Gymraeg wedi’r secondiad i Sky Sports, roedd dwy ‘arbenigwraig’ ffasiwn a chynllunio mewnol yn dweud wrthym sut i addurno’n cartrefi a ni’n hunain ar gyllideb. A chafwyd eitem ddibwys o fer am “barti swisho”, lle’r oedd Beryl a Meryl yn ceisio ailwampio’u hunain fel Joan Collinsiaid Sir Gâr gyda chymorth sgarff sidan a mwclis amryliw. Nid yr oriau brig yw lle hon, ond slot ganol dydd yn erbyn cyfresi hen-geriach-yr-atig, coginio-mewn-cachiad a sioeau-siarad-gwag-i-wragedd-tŷ ar y sianeli Saesneg. Mae cyflwynwraig gystal â Mari Løvgreen yn haeddu gwell.

Roeddwn i’n ofni’r gwaethaf gyda Dathlu! (8.25pm nos Iau) hefyd, cyfuniad o Gwaith Cartref a Halen y Ddaear gyda Nia Parry yn camu i sgidie Carol Smillie. Yr her oedd addurno ystafell wely merch ifanc o Gwm Gwendraeth, a threfnu parti syrpreis iddi ar thema sioe gerdd Chicago gyda gwesteion arbennig o Barc y Scarlets. Er gwaetha’r sinig “rhaglen-rad-a-chas!” ynof, cefais fy nallu gan frwdfrydedd heintus Nia Parry â’i natur famol at bawb o’i chwmpas, a’r holl dynnu coes gyda Leah 04 Wal Hughes ac ‘Ifs’ yr adeiladwr. Ac er gwaetha’r holl banig ffug a’r elfen o ‘ras yn erbyn y cloc’ sy’n rhan annatod o raglenni fel hyn, roeddech chi’n gwybod yn iawn y byddai popeth mewn trefn yn y diwedd. Dim ond gobeithio na fydd Nia’n cyffroi gormod i roi genedigaeth cyn-pryd ar y sét!

Fe wellodd pethau’n arw nos Wener, wrth i gyfres boblogaidd Tudur Owen o’r Doc ddychwelyd. Pwy sy’n malio am Jonathan Ross, efo’r comedïwr o Fodorgan wrth y llyw ar S4C heb unrhyw westai’n hyrwyddo rhyw record, ffilm neu sebon sent dragwyddol? Yn hytrach, digonedd o chwerthin wrth i Eleri Siôn drïo siarad gogs a hanes Julian Lewis Jones (ffrind gorau Clint Eastwood, rhag ofn na welsoch chi raglen Jonathan!) yn ymarfer clyweliad ffilm Hawaii Five-O. A chwarae teg i’r aelodau dewr o’r gynulleidfa am fod yn gymaint o gocynau hitio’r cyflwynydd crafog!