Dau gwm, dwy briodas

Teulu'r Caddock, Royal Wedding. Ymddiheuriada am Jacs yr Undeb.

Mae’n dymor traddodiadol y priodasau, pan fo’r haul yn gwenu ar y fodrwy, y siampen a’r cariad yn llifo. Mewn byd delfrydol o leiaf. Rhyw ddiwrnod delfrydol felly oedd hi 29 mlynedd yn ôl, wrth i 750 miliwn o wylwyr teledu byd-eang gael eu swyno gan briodas dylwyth teg yng nghadeirlan St Paul’s, Llundain. Un o briodasau mwyaf costus ond ofer erbyn hyn wrth gwrs. Ond ar y pryd, roedd hi’n gyfle i bobl Prydain anghofio am Thatcher a therfysgoedd Toxteth trwy drefnu partïon stryd mewn môr o Jacs yr Undeb. A dathlu oedd ar feddyliau trigolion cymuned lofaol yn Royal Wedding hefyd, drama unigol a ddarlledwyd ar BBC2 wythnos diwethaf. Drama wedi’i hadrodd o safbwynt Tammy Caddock, merch ifanc bymtheg oed, a oedd yn prysur werthu tocynnau ar gyfer parti mawr gyda sosej rôls, cystadleuaeth gwisg ffansi roc a phop, gwobr am y steil gwallt gorau fel Diana, a disgo gyda TJ y DJ a oedd mor gawslyd â Jônsi. Ac yng nghanol hyn i gyd, mae pawb yn benderfynol o fwynhau er gwaethaf cymylau duon diweithdra a phroblemau priodasol eu hunain - o’r fam ifanc sy’n ysu am ddechrau newydd gyda’i chariad Iypïaidd, i’w gŵr di-waith a’i freuddwyd gwrach am fod yn ganwr pop a’r ffrind lesbiaidd a’i chrys-t “Don’t do it Di!”. Ac yng nghanol hyn i gyd, cawsom sawl clip o sbloets fawr y Windsors. Roedd naws arbennig iawn i’r ddrama, ac roeddech chi wir yn teimlo fel petaech wedi glanio ym 1981- o’r ceir Datsun, y dynion mwstashiog a’r merched Nolans-aidd - a haul Gorffennaf yn pefrio ar y sgrîn. Dyna’r uchafbwynt i mi. Yr isafbwynt oedd y defnydd o actorion dŵad o Swydd Efrog a Stafford i bortreadu’r brodorion. Mewn gwirionedd, y cymeriadau ymylol a’r actorion Cymreig sy’n aros yn y cof. Rhai fel Alan Garvey (Alun Raglan), Robbie (Aled Pugh, enillydd haeddiannol gwobr 'Actor Gorau' BAFTA Cymru 2010 am ei ran yn y ffilm Ryan a Ronnie) a Dolly (yr hyfryd Wendy Phillips a welwyd yn y ffilm Very Annie Mary), clamp o gymêr mewn gwisg Gymreig sy’n fodlon braf gyda’i Babycham a’i theledu bach ar garreg y drws.


Roedd Pobol y Cwm yn edrych ymlaen am briodas wythnos diwethaf hefyd. Y cwpl hoffus Kevin a Sheryl oedd y rhai anlwcus y tro hwn, wrth i’r priodfab gael ei ruthro i’r ysbyty cyn cyrraedd Bethania. Nid dyna unig drychineb y diwrnod mawr chwaith, wrth i fam a llysfam Kevin rodresa rownd y pentref yn yr un het, a Nansi (Marged Esli) yn herian bod hi ag Anita’n rhannu’r un chwaeth mewn dynion a dillad! Mae’n braf cael yr hen flonden drafferthus o Amlwch yn ôl yn y gyfres, gan obeithio ei bod hi yma i aros am sbelan eto. Ac mae’n braf gweld sioe sebon fytholwyrdd S4C yn cael lle haeddiannol ochr yn ochr â’r ‘mawrion’ Prydeinig ar wefan boblogaidd digitalspy hefyd.