’Nôl i ’87


O diâr. Mae’n debyg fod yr Wythdegau yn boblogaidd unwaith eto. Gyda Phlaid Magi yn prysur ennill tir, cyfresi fel Ashes to Ashes yn boblogaidd ar y BBC, a Hollywood yn ailwampio The A Team ar gyfer y sinemâu, mae’r degawd di-chwaeth wedi cael ail-wynt. Ac mae’n ymddangos fod ton o nostalgia yn sgubo Cymru hefyd, wrth i S4C ail-ddangos un o’i chyfresi mwyaf poblogaidd erioed i’r to iau. Ydy, mae castiau a champau carwriaethol y criw pyrmiog o Lŷn - a’r genod - yn ôl am wythnos, i gyd-fynd â rhifyn arbennig o Lle Aeth Pawb? Jabas.

Mae’r fformat llwyddiannus hwn eisoes wedi ennill gwobr ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2009 a’i gwerthu i wledydd fel Ffindir. Tra bod rhai o gast gwreiddiol 1987 yn weddol adnabyddus i ni heddiw - Owain Gwilym (Jabas Jones) ar Radio Cymru, Buddug Povey (Pegi) yn wyneb cyfarwydd Rownd a Rownd, ac Eleri Fôn a Lowri Mererid (Ruth a Glenda) yn lleisiau cefndir i rai o’n grwpiau roc amlycaf ni - roedd hanes y lleill yn bur ddieithr. Ond diolch i ymchwilwyr y rhaglen, cafwyd hyd i Picsi (Dr Harri Pritchard) yn feddyg teulu ym Môn, Gwil (Guto Gwilym Jones) yn gwerthu bwydydd anifeiliaid; a Lois (Lowri Glain) yn
gynhyrchydd dramâu teledu llwyddiannus yn Notting Hill, Llundain. A chwarae teg i Lowri Glain saith mis yn feichiog, am ddychwelyd i’r union soffa lle ffilmiwyd golygfa go boeth rhyngddi hi ag Owain Gwilym. Mae’n hawdd anghofio pa mor fentrus oedd y gyfres mewn gwirionedd, gyda golygfeydd caru a chymryd cyffuriau ochr yn ochr â’r gwersi ysgol. A dyma’r tro cyntaf i mi glywed am Jabas yn corddi’r dyfroedd yn Iwerddon, a chael ei gwahardd gan ddarlledwyr nerfus RTÉ/Telegael.

Roedd cyfweliadau’r ffans selog lawn mor ddifyr a diddorol, yn enwedig aelodau Clwb Edmygwyr Owain Gwilym. Nhw oedd yn cadw llyfrau lloffion o’r gyfres, yn prynu crysau-t a chaneuon rap giami (“Cofiwch Llywarch heb ei drôns/Ac fe gofiwch rapio - Jabas Jones!”) ac yn stelcio’r sêr ar feysydd Steddfod yr Urdd. Fel y soniodd Heledd Fychan, roedd hi’n wirioneddol braf cael cymeriadau perthnasol i’r Cymry Gymraeg yn oes Kylie a Jason. Hyd yma, mae dros 260 o eilunaddolwyr wedi ymuno â thudalen gweplyfr Jabas Jones. Go brin fod Caerdydd yn gallu brolio’r un peth.

Dwi wedi cael “brênwêf”, S4C. Beth am ragor o berlau’r gorffennol i’r ‘Awr Aur’, fel Tydi Bywyd yn Boen, A55…?