Samariad trugarog Bosnia

Dwi’n cofio’r diwrnod fel ddoe. Prifwyl Aberystwyth 1992, a chriw ohonom wedi gwasgu mewn tun sardîns o garafán i wylio Colin Jackson yn carlamu dros y clwydi yn Barcelona. Yn sydyn, dyma bennawd newyddion yn fflachio ar y sgrîn gyda delweddau erchyll o ddynion esgyrnog mewn gwersyll garchar rhyfel ym Mosnia. Yn sydyn, roedd methiant athletwr o Gaerdydd i fachu unrhyw fedal Olympaidd yn bitw. Roedd rhyfel Iwgoslafia wedi newid gêr i lefel sinistr Natsïaidd. Roedd ymateb araf llywodraethau’r gorllewin yn warthus o gymharu â’u parodrwydd i amddiffyn Afghanistan heddiw, ond diolch i’r drefn, roedd gweithwyr dyngarol yn heidio i helpu pobl y Balcanau. Pobl fel Gwilym Roberts o Rostryfan, Caernarfon, testun cyfres ddogfen O Flaen dy Lygaid: Nôl i Bosnia wythnos diwethaf.

Lipik, Croatia

Byrdwn y bennod gyntaf oedd dilyn ôl troed Gwilym i weld sut mae trigolion Croatia a Bosnia yn ymdopi mewn heddwch bregus bymtheg mlynedd yn ddiweddarach. Yn ogystal ag ymweld â chartref plant amddifad ac ysbytai a gafodd gymorth gan griw Convoy of Hope, roedd Gwilym ar drywydd personol iawn. Roedd yn awyddus i chwilio am ŵr o’r enw Ivan a achubodd ei fywyd trwy gynnig lloches iddo mewn seler ar gyrion Mostar, ymhell o fwledi a bomiau’r Serbiaid. Ond heb ffotograff, cyfenw na chyfeiriad llawn, roedd tipyn o dasg o’i flaen.

Cawsom yr hanes o sawl ffynhonnell. Gwilym yn trafod ei atgofion arswydus yn uniongyrchol i’r camera wrth yrru drwy’r wlad gyda’i gyfieithydd Zdvarko, cyfweld ag wynebau’r gorffennol, a lluniau newyddion teledu’r cyfnod. Roedd ambell olygfa’n ddigon i’ch sobri, fel tref fechan Lipik a arferai fod yn dref lewyrchus o ffynhonnau dŵr iachusol a ffatrïoedd gwydr cain, ond sydd bellach yn llwm a llawn creithiau rhyfel. Mae creithiau personol mor fyw ag erioed hefyd, fel yr “angel” o nyrs Fwslimaidd a helpodd gymaint o blant yn Ysbyty Mostar yng nghanol y gyflafan, ond a gafodd ei diswyddo oherwydd ei chrefydd. Heddiw, mae’n dlawd a di-waith, ac yn hiraethu am ei mab a fudodd yn faciwî i’r Unol Daleithiau. “Mae ei rhyfal hi yn dal i fynd ymlaen” meddai Gwilym. Golygfa ddirdynnol arall oedd honno o Gwilym yn pori drwy llyfr swmpus ag enwau 15,000 o bobl, yn swyddfa’r Groes Goch ym Mostar. Pymtheg mil o Fosniaid sy’n dal ar goll hyd heddiw, o blant dyflwydd oed i’r henoed.

Yn y diwedd, daeth o hyd i Ivan er gwaetha’r ansicrwydd a’r cof niwlog. Bu cryn gofleidio a dymuno ‘živjeli!’ ac ‘iechyd da!’ i’w gilydd wrth glecian gwin. Ond y tu ôl i’r hapusrwydd, hagrwch y rhyfel sy’n aros yn y cof. Perl o gyfres. Bechod ei bod yn dod i ben.