Sgorio efo'r Cofis


O’r diwedd. Mae’r cyfan drosodd. Gawn ni fwy o lonydd fory hefo lwc - os nad eith hi’n senedd grog/gytbwys, ac arwain Betsan Powysiaid y byd i berlewyg arall. Cefais fy hudo gan gyffro a newydd-deb y dadleuon teledu i ddechrau, mwynheais Pawb a’i Farn mwy bywiog na’r arfer er gwaethaf Cymraeg carpiog llawer o’r gwleidyddion, ac fe wnes ymdrech i wylio Election 2010: Wales Debates ar BBC1 nos Sul diwethaf. Ond digon yw digon. Fe gwympais i gysgu yn ystod dadl arlywyddol olaf y BBC, switsio’r Post Cyntaf a’r “Gardis” felltith i Classic FM, a diflasu efo’r holl ddadansoddi dros ben llestri yn sgil Duffygate. Efallai na ddylwn i gwyno gormod fodd bynnag, gyda sbloets fawr De Affrica yn cychwyn mewn ychydig dros fis. Ymgyrch pêl-droedwyr Lloegr fawr fydd hawlio’r penawdau wedyn!

Caernarfon nid Cape Town ydi cyrchfan S4C beth bynnag. Nos Fawrth, dechreuodd Gobaith Caneri, cyfres ddogfen tair rhan sy’n olrhain hanes clwb pêl-droed y Cofis i ddychwelyd i’r hen ddyddiau da. A hwythau wedi cael cic owt o Uwchgynghrair Cymru’r tymor diwethaf, at eu clustiau mewn dyledion, a’r rheolwr a’r chwaraewyr wedi’i heglu hi’n ôl i Gei Conna a Lerpwl, mae’n ‘greisus’ ar yr Oval, chwadal Wali Tomos. A chyda’r clwb bellach yn cosi gwaelod cynghrair Cymru Alliance, a diwedd y tymor ond saith gêm i ffwrdd, mae camerâu’n dilyn ymgais cefnogwyr lleol i gadw’r fflam yn fyw ac achub y clwb rhag boddi wrth ymyl lan afon Seiont.

A sôn am griw! Er gwaetha’u diffyg profiad, mae ganddyn nhw’r hiwmor a brwdfrydedd heintus i roi cynnig arni. Cyflwynwyd naws y cyfan i’r dim yng nghyfarfod y pwyllgor o ddeuddeg, gydag un yn gofyn i'r llall “Be ti’n wbod am ffwtbol?” cyn ateb “Dim!”. Gwelsom y swyddogion gwahanol wrth eu gwaith, o Marc Roberts y swyddog marchnata yn dosbarthu posteri’r gêm o amgylch y dre, i reolwr y cae Eric Barton (neu “stêdiym manijar” yn ei eiriau ef) a John Rowley, dyn tân rhan-amser a streicar ifanc y tîm. Ac roedd yna ddigon o gyfarwyddo tafod yn y boch hefyd, yn enwedig wrth ddangos y gêm yn erbyn Llandudno, un o brif dimau’r gynghrair. Siawns fod y rheolwr Geraint Williams yn hapus gyda’r perfformiad wedi hanner cyntaf di-sgôr, tybiodd y lleisiwr Dyfrig ‘Topper’ Evans, cyn i’r camera dorri’n syth i’r ’stafell newid danllyd wrth i’r rheolwr refru ar ambell ddiogyn. A hoffais y dechneg effeithiol o bontio’r rhaglen gyda’r dilynwr selog Kev Roberts â’i archif o hen raglenni’r clwb yn hiraethu am ddyddiau da “deep heat a nicotîn”. Ond uchafbwynt y rhaglen i mi oedd gweld a chlywed y Gymraeg yn iaith y cae chwarae, hyfforddi a chymdeithasu. Ac am hynny, dwi’n mawr obeithio y bydd y Caneris yn mynd o nerth i nerth!