Tua'r gorllewin

Ddydd Sadwrn diwethaf, roeddwn i’n difaru. Difaru nad oeddwn i yno yng nghanol miloedd o gyd-Gymry yn mwynhau’r hwyl heintus yng ngwres tanbaid Mehefin. Na, nid Stadiwm y Mileniwm yn gwylio’r crysau cochion yn colli o drwch blewyn Sbringbok eto fyth, ond Llanerchaeron. I’r sawl ohonom na fentrodd i Costa del Ceredigion, roedd rhaglenni dyddiol rhagorol S4C yn gwbl hanfodol. Er mai cwmni gwahanol oedd yn gyfrifol am yr arlwy eleni - Avanti yn lle Hanner-Hanner - roedd yr hen stejar ddibynadwy Nia Roberts yma o hyd. Druan ohoni hefyd, yn gorfod llywio’r rhaglenni dyddiol mewn stiwdio digon tywyll ac anghynnes, tra bod Heledd Cynwal yn rhydd i grwydro’r maes heulog yn y rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol. Cafodd Mari Grug secondiad o’r swyddfa dywydd i lenwi sgidie arferol Alwyn Humphreys a’r llyfr testunau, a’r ddau fyrlymus Mari Lovgreen a Trystan Ellis-Morris yn bachu ar berfformwyr bach a mawr. Braidd yn rhy fyrlymus ar brydiau, wrth i Trystan fynnu bod pob giang o blant yn sgrechian gweiddi am y gorau gefn llwyfan. Diolch byth am y botwm ‘mute’. Ac unwaith eto, mae gen i’r un hen gŵyn ynglŷn â diffyg creadigrwydd a chlyfrwch yr holwyr - does dim byd gwaeth na chlywed yr hen gwestiwn difflach “sut ti’n teimlo?” dro ar ôl tro ar ôl tro. Ac roedd y cythrel cystadlu’n amlwg erbyn y noson olaf, gyda chriw’r Waun Ddyfal, Caerdydd, yn prysur ddatblygu’n rhyw ‘LanaethwyCF1aidd’ arall, fel y rhai i’w curo ar bob cyfri. Diawch, fe aeth hi’n ymryson mewnol erbyn y diwedd, gyda Chôr Waun Ddyfal ‘A’ yn mynd ben-ben â Waun Ddyfal ‘B’. Ond y Cardis oedd gwir enillwyr yr wythnos, gyda phawb yn canmol y lleoliad a’r awyrgylch a’r croeso hyfryd. Mi gawn nhw fwy o gyfle i frolio mewn mis, fel sir nawdd y Sioe Fawr. Gobeithio y bydd Mari Grug wedi trefnu tywydd cystal bryd hynny hefyd.

Aeth rhai o gymeriadau Pobol y Cwm i Steddfod yr Urdd hefyd, fel sy’n arferol bellach ers sawl blwyddyn. Pob clod i’r cynhyrchwyr am gyflwyno mwy o naws gyfoes i’r gyfres sebon trwy ffilmio a darlledu penodau ‘byw’ i bob pwrpas. Cafodd pentrefwyr Cwmderi seibiant rhag swnian di-baid Ffion Llywelyn (Bethan Elis Owen), wrth iddi daro ar draws ei chyfnither Nesta (Catrin Mara) ar y Maes. Er bod y ddwy wedi rhannu Hywel a Cai rhyngddynt, ac wedi torri calonnau’i gilydd dros Lleucu fach, roeddynt i’w gweld yn ffrindiau mynwesol erbyn y diwedd. Rhyfedd faint o les mae paned neu ddiferyn o rywbeth cryfach yng nghaffi Mistar Urdd yn ei wneud i rywun. Rhyfeddod arall yw disgwyl inni gredu bod twpsod fel Mark Jones, Debbie a Colin wedi bathu sloganau ffraeth fel ‘Carudigion’ ac ‘Aeronig’ ar gyfer eu busnes crysau-t. Do, fe lwyddodd cwmni ‘Crys T a Fi’ i werthu’u cynnyrch i greaduriaid gwirion fel Hywel Gwynfryn. Go brin fod criw ‘Cowbois’ yn poeni.