Blas ar nos Sadwrn bach


Mae’n nos Fercher, ac mae’n chwip o noson dda ar y bocs. Mae’r gyfres ddrama aruchel Mad Men yn dal i fynd o nerth i nerth ar BBC4, a dwi’n ymddiheuro DIM am fynd ymlaen a ’mlaen amdani. Ond cyn hynny, mae yna ddigon i ’nghadw’n ddiddig ar y Sianel Gymraeg. Neithiwr, dechreuodd ail gyfres o 3 Lle sy’n olrhain llefydd sy’n agos iawn at galonnau Cymry amlwg - yng Nghymru’n bennaf wrth gwrs, er mwyn arbed costau teithio yn nyddiau’r wasgfa bondibethma. Dwi’n hoff iawn o’r syniad o roi cyfle i’r bobl siarad yn uniongyrchol â’r camera eu hunain, heb gael cyflwynydd yn rhoi’i big i mewn yn ormodol fel Iolo Crwydro Williams gynt. Ac mae’r gyfres hon yn cynnwys detholiad difyr o westeion hefyd, er bod rhyw batrwm yn datblygu rhwng enwogion Pen Talar (Ryland Teifi ac Ifan Huw Dafydd) a Codi Canu (Donna Edwards a Beti George). Hys-bys hanner awr i raglenni cyfredol y Sianel felly. Ac wrth wylio, dyma feddwl am dri lle yr hoffwn i bicied iddyn nhw ar hyn o bryd. Yn gyntaf, swyddfa Ffyrgi yn Old Trafford i weld beth gythgam ddigwyddodd rhwng y Bos a’r Bych Barus Rooney. Yn ail, coridorau grym BBC Cymru i fod yn bry-ar-y-wal ar ddarpar berchnogion newydd S4C a chlywed mwy am ddiflaniad disymwth Jônsi, ac yn olaf Ynys Enlli - er mwyn dianc rhag yr holl ddadansoddi a darogan gwae am doriadau’r ConDemiaid a thranc S4C!

Mae’n braf dianc i fyd Aled Sam yn Cartrefi Cefn Gwlad Cymru, cyfres newydd sy’n seiliedig ar lyfr hynod o’r 1970au, Houses of the Welsh Countryside gan Peter Smith. Ac er bod y golygfeydd panoramig o Mr Sam a’i lyfr braslunio yn crwydro’r bryniau mewn cot ffarmwr bonedd, y gwaith camera onglog o dalcen bwrdd neu gorn simnai, a’r gerddoriaeth honci-tonc yn dwyn i gof 04 Wal, mae hon yn agor drysau a’n llygaid i gyfoeth pensaernïol ein gwlad. Tai Eryri oedd dan sylw yn yr ail bennod, a braf gweld ambell un cyfarwydd o’m cynefin - Castell Gwydir, Llanrwst a Thŷ Mawr Wybrnant, Penmachno. Yn wahanol iawn i 04 Wal, cawsom olygfeydd cyfrifiadurol o’r tai gwreiddiol cyn i ffermwyr yr unfed ganrif ar bymtheg gael pwl o DIY trwy godi palis a gosod grisiau cerrig ynddynt. Fe gawson ni sawl cyfweliad gydag arbenigwyr Cymraeg eu hiaith, o bensaer i hanesydd tir a swyddog Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ond dim sôn am berchnogion y tai ysblennydd hyn. Bechod hefyd, oherwydd roedd yr elfen bersonol ar goll braidd. Gobeithio i’r nefoedd nad yw hyn yn awgrymu mai pobl ddŵad sydd ar yr aelwyd heddiw...