Swnian yn Snowdonia 1890

Dwi wedi mynd braidd yn ddifynedd hefo cyfresi teledu’n ddiweddar. O’r blaen, doeddwn i ddim yn meddwl dwywaith am bydru ar y soffa gerbron Big Brother, Footballer’s Wives (maddeuwch i mi) ac Eastenders, ond yn llawer mwy ffyslyd a dethol erbyn hyn. Neu wedi magu chwaeth. Oes, mae gen i bethau rheitiach i’w gwneud na gwylio Cocnis yn clegar ymysg ei gilydd am awr a hanner yr wythnos. A lle’r oeddwn i’n arfer ag awchu am gyfresi dramâu Americannaidd sy’n para am byth, dwi’n colli diddordeb erbyn yr ail bennod bellach. Dyna ddigwyddodd gyda The Event (Channel 4, bob nos Wener), sy’n olrhain paranoia llywodraeth America a’r CIA pan fo estroniaid o’r gofod yn llechu ymhlith pobl gyffredin ers yr Ail Ryfel Byd. Yn gyfuniad o ddirgelwch X Files ac ôl-fflachiadau dryslyd Lost ac yn cynnwys Arlywydd croenddu a chast o actorion plastig eurfrown â dannedd claerwyn, mi gollais ddiddordeb yn sydyn. Dim gwreiddioldeb, dim amynedd.

Rhyw deimlad felly oedd gen i tuag at Snowdonia 1890 erbyn y diwedd hefyd. Daeth sioe realiti BBC Wales i ben wythnos diwethaf, gyda’r teulu Braddock o’r Fenni a’r Jonesiaid o Ddinbych yn dychwelyd i’r byd modern ar ôl treulio mis “caled” mewn tyddyn yn nhopiau Rhosgadfan. Y Braddocks oedd y gwaethaf. Tra’r oedd y bechgyn yn cwyno am undonedd a diflastod y chwarel neu’n pendwmpian yn hollol ddigywilydd yn y Caban, roedd nerfau’r fam yn rhacs o feddwl am fwydo’i theulu o chwech heb gymorth prydau popdy-ping o Asda. Bob tro roeddynt ar eu cythlwng o flaen camera, roedd y sinig ynof yn amau fod rhedwr y gyfres yn piciad i siop sglods Caernarfon drostynt ôl i’r criw ffilmio fynd adref. Roedd ’na hen gwyno am y tywydd adeg trip ysgol Sul gwlyb ar drên stem, swnian nad oeddynt yn cael wyau siocled ar Sul y Pasg, ac achwyn fod gwasanaeth y Capel yn uniaith Gymraeg. Yn Eryri uniaith Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg? “Ffôr Shêm”, chwadal Enid Lewis Pen Talar. Elfen chwithig arall oedd clywed teulu’r Jones, Cymry Cymraeg, yn (gorfod?) siarad gyda’i gilydd yn Saesneg er budd y rhaglen, ac eithrio ambell “hwyl” a “diolch yn fawr”, gydag isdeitlau hollol hurt. Ond dyna ni, efallai bod y BBC yn ofni pechu’r gwylwyr gartref sy’n cwyno bob tro mae Derek Brockway yn meiddio gorffen adroddiadau tywydd Wales Today gyda “ta ta tan toc”. Rhyfedd o fyd/strange world.

Nawr bod y gyfres wedi gorffen, mi allai’r Braddocks ddychwelyd i’w bywyd cysurus yn y de-ddwyrain Seisnig a’u deiet arferol o Strictly X Factor Get me Outta Here heb orfod poeni am hen niwsans o iaith leiafrifol.