Cenwch, clodforwch!


“Gormod o rygbi”. Dyna’r gŵyn arferol am S4C, a digon teg rhwng gêm Casnewydd a Chaerwrangon, cystadleuaeth 7 bob ochr Dubai ac uchafbwyntiau Cwpan Heineken yn hawlio amserlen y penwythnos. Ond diawch, mae rhaglenni cerddoriaeth yn mynnu’n sylw hefyd. Digon teg os ydych chi wedi mopio ar giamocs Only Men Aloud, ac yn edrych ymlaen at weld yr hen, hen, hen, hen ffefrynnau Rhydian Roberts a ‘Bing’ Terfel dros y Dolig, heb sôn am Noson Lawen a chyngerdd mawreddog o Arena Ryngwladol Caerdydd dan ofal Alex Jones – ond i’r gweddill ohonom, gêm o Scrabble neu nofel newydd amdani. Roeddwn i wedi dechrau ’laru ar Carolau Gobaith (8.25 bob nos Fawrth) ar sail yr holl gyhoeddusrwydd yn unig, a oedd bron mor ailadroddus â hysbysebion uffernol Jason Donovan i’r cwmni bwyd rhewi rhad-a-chas. Ond, dyma benderfynu roi hergwd i’m natur scrooge-aidd, ac ymroi i fwynhau gŵyl y Baileys, sori, y baban. Roeddwn i’n ofni Codi Canu rhif VII. Ond fe ges i’n siomi ar yr ochr orau.

A pha ryfedd, gyda Shân Cothi wrth y llyw? Mae Ms Fythol Frwdfrydig Ffarmers yn gallu denu’r gorau o unrhyw un, ac wedi cael blwyddyn brysur rhwng cyfresi Bro, Y Porthmon a Ffair Aeaf/10. Y tro hwn, mae’n rhannu llwyfan gyda’r tenor Rhys Meirion a chwech o Gymry amlwg – os braidd yn fflat – sy’n ceisio codi’r tempo a chanu deuawdau at achosion da. Yn y bennod gyntaf, bu’r criw ar benwythnos meithrin cyfeillgarwch – na, nid mewn ysgol sol-ffa, ond ar gwrs antur ym Mannau Brycheiniog. Y nod oedd gwneud i bawb wynebu’u hofnau cyn mynd ymlaen i ganu o flaen cynulleidfa a chreu crynoddisg. Ac mi gawson ni wledd o chwerthin, os nad gwledd gerddorol. Roedd Bethan Gwanas megis aelod o gwmni syrcas gwladol Moscow ar gwrs rhaffau 60 troedfedd uwchlaw’r ddaear, ond yn crïo fel babi blwydd wrth ganu gerbron Cothi a’r criw. Ac roedd y dyfarnwr di-lol Nigel Owens yn crynu fel Democrat Rhyddfrydol mewn llond ’stafell o fyfyrwyr, cyn plymio i bwll o ddŵr. Ac yn y clyweliadau, roedd Rhys Meirion a Shân Cothi yn rhyfeddol o glên gyda nhw. Mi fuasai un o feirniaid yr Urdd, neu Mr Cowell, wedi’u rhwygo’n rhacs. Ymlaen â’r gân!

I gloi, beth am uchafbwyntiau’r gwylio dros y gwyliau? Yn bersonol, dwi’n edrych ymlaen at flasu Nadolig oes Fictoria yn Byw yn ôl y Llyfr a chwerthin gyda chriw brith Ar y Tracs eto, peth prin iawn yng Nghwmderi’r dyddiau hyn rhwng helbulon y caffi a’r fferm. Dim ond gobeithio y bydd diwrnod priodas Gwyneth ac Yvonne yn achlysur hapus… cyn i Garry Monk daflu dŵr rhewllyd ar y cyfan efallai? Nadolig Llawen!