Gwell Tryfan na’r trenau


Rhyw gyfnod go rhyfedd ydi’r ’Dolig a’r Calan. Ar un llaw, mae’n gyfle i deuluoedd ar wasgar ddod ynghyd, ar y llaw arall, mae’n chwith gweld cadair wag o amgylch y bwrdd bwyd. Ac roedd rhyw dinc hiraethus yn perthyn i amserlenni teledu’r ŵyl hefyd. Neilltuodd BBC2 noson gyfan i ffefrynnau’r 70au, Morecambe & Wise a The Good Life, ac un o uchafbwyntiau noson Nadolig BBC1 oedd The One Ronnie - sy’n swnio braidd yn drist iawn feri sad - gan fod Mr Barker yn ei fedd ers pum mlynedd. Diffyg syniadau gwreiddiol neu borthi dyheadau’r gynulleidfa am Nadoligau’r gorffennol efallai?

Roedd S4C wrthi hefyd, er na chawsom y dos arferol o Fo a Fe a Ryan a Ronnie. Yn hytrach, darlledwyd 40 Uchaf C’mon Midffîld noswyl A noson Nadolig. Gyda chlipiau a dywediadau poblogaidd fel “Glen Fiddich”, roedd hi’n rhaglen rad ond hynod boblogaidd siŵr o fod, gan nad oes cymeriadau comedi wedi llwyddo i ragori ar Wali, Mr Picton, Tecs, George a Sandra ers y nawdegau. Go brin y gwelwn ni raglen gyffelyb am Hafod Haidd neu Bob a’i Fam ymhen deng mlynedd. Roedd chwerthin braidd yn brin yn Sioe Dolig Tudur Owen hefyd, gyda’r gymysgedd arferol o westeion fel yr actores Donna Edwards a’r Arglwydd Dafydd Êl anghysurus yr olwg, pigion o’r we, a giamocs gyda’r gynulleidfa. Y math o sioe yr oeddech chi’n gorfod bod yno i’w mwynhau go iawn. A pham yr holl sylw i Meical Owen, a oedd mor ddoniol â brechdanau twrci oer i swper dair noson yn olynol?

Mewn cyfnod pan fo ffilmiau Cymraeg mor brin ag aur, thus a myrr, fe gawsom ni ddwy'r ’Dolig hwn. Dau ddilyniant i ffilmiau Nadolig y gorffennol, gydag un tipyn mwy llwyddiannus na’r llall. Ar ôl canu clodydd ffilm Catrin Dafydd y llynedd, roedd Ar y Tracs: Y Trên i’r Gêm braidd yn fflat i mi, a hanner awr yn rhy hir. Iawn, mi roedd yna ambell berl - fel Catrin (Rebecca Harries) yn ceisio profi i’r maffia rygbi lleol ei bod yn haeddu tocyn sbâr i gêm fawr Lloegr, a’r cameos hyfryd gyda Phil Bennett fel cariad newydd Mam-gu (Margaret John) ac aelodau o ffilm Grand Slam. Yn anffodus, doeddwn i ddim yn malio’r un botwm corn am dynged Gwenci (Aled Pugh) nac yn credu am eiliad y byddai llond cerbyd o Saeson rhonc yn gwrando’n astud ar sylwebaeth Gymraeg Huw Eic o’r Mileniwm. Ac a wnaiff rhywun plîs ’sgwennu cyfres yn unswydd i Rhian Morgan, un o’n prif actoresau comedi sy’n giamstar ar gynildeb.

Ar ôl lladd ar y ffilm gyntaf yn seiliedig ar greadigaeth enwog Idwal Jones (neu “wedi selio ar gymeriadau Idwal Jones” yn ôl rhestr gloi’r rhaglen - fel selotep felly?!), fe wnes i wir fwynhau Gari Tryfan a’r Drych i’r Gorffennol ddydd Calan, gyda hen farbwr gwaedlyd, mynach mileinig Ystrad Fflur, pwdl trafferthus a lot o ddoniolwch wrth i’r hen dditectif traddodiadol o’r 1950au ddal i geisio dygymod â’r bywyd dinesig modern yn 2010 - oll wedi’u lapio mewn awyrgylch film noir i gyfeiliant cerddoriaeth iasol. Wedi anfantais y ffilm gyntaf o gyflwyno cymeriadau o’r newydd inni, roedd y gwrthdaro a’r gwamalu cyson rhwng Gari Tryfan (Richard Elfyn) sy’n ysu am sigarét a phaned dda, a Cai (Huw Rees) gyda’i Wenglish a’i jôcs sâl - a’r hyfryd Leusa (Catherine Ayres) yn y canol - yn wych y tro hwn.

Mwy’r ’Dolig nesaf, Caryl Lewis a Paul Jones!