Pen-blwydd Hapus Chuck


Mae ’na fwy nag un achos dathlu ym Manceinion y mis hwn. Yn ogystal â gŵyl y tinsel a’r twrci, mae un o allforion enwocaf y ddinas yn dathlu’r Aur. Ydy, mae Coronation Street yn hanner cant heddiw. A pha well ffordd o nodi’r achlysur arbennig na thrwy wahodd eiconau’r gorffennol fel Bet, Hilda a Mavis yn ôl am sheri a darn o gacen pen-blwydd yn y Rovers. Achlysur hapus, hiraethus braf i ddathlu’r garreg filltir? Dim ffiars o berig. Achos mae’r cynhyrchwyr wedi penderfynu creu ffrwydrad sy’n achosi i dram ddisgyn am ben y trigolion, a bod o leiaf tri chymeriad yn gadael y Stryd mewn arch yn hytrach na’r tacsi du arferol.

Bydd Corrie ar dân yn llythrennol, wrth i ITV neilltuo wythnos gyfan i’w seren y sgrin. Bydd cwis gyda Paul O’Grady, Victoria Wood yn dewis a dethol y 50 golygfa gorau erioed, ac ailddarllediad o’r bennod gyntaf a ddarlledwyd ar 9 Rhagfyr 1960. Bu bron iddi gael ei henwi’n Florizel Street, tan i ddynes ll’nau stiwdios Granada awgrymu ei bod yn swnio fel stwff glanhau tai bach. Dim ond 13 pennod o fabi Tony Warren a gomisiynwyd yn wreiddiol, ac roedd colofnydd snobyddlyd Daily Mirror ar y pryd yn rhagweld na fyddai’n para mwy na tair wythnos. Sy’n profi fod adolygwyr teledu’n siarad drwy’u pen olau weithiau. Bellach, mae ‘Corrie’ wedi torri dwy record byd - fel y gyfres sebon hynaf sy’n dal ar waith heddiw, a’r actor sebon mwyaf hirhoedlog, William Roache (Ken Barlow).

Er nad ydw i’n ddilynwr selog, mae yna gryn edrych ymlaen at bennod awr sy’n cael ei darlledu’n fyw heno wrth i’r trigolion ddod i delerau â’r drychineb. Bydd yn gyfle i brofi cyffro’r hen ddyddiau teledu du a gwyn, a gweld sut y bydd yr actorion a’r criw effeithiau arbennig yn ymdopi â phwysau’r rhaglen fyw. Mae’r cynhyrchwyr eisoes yn diawlio’r eira diweddar, gan beryglu cysondeb y golygfeydd allanol ‘byw’ â’r rhai a ffilmiwyd wythnosau’n ôl. Digwyddodd rhywbeth tebyg i gyfres Pen Talar, gyda’r eira’n drwch mewn un olygfa cyn diflannu ac ailymddangos yn y rhai dilynol. Gyda llaw, pwy sy’n cofio ymddangosiad Richard Harrington fel bachiad Janice Battersby yn Coronation Street ym 1999? Roedd y corrach cegog wedi syrthio mewn cariad â Hwntw “lleol” ar wyliau carafán - yn y Rhyl. Prawf fod hyd yn oed y goreuon yn gwneud smonach o bethau weithiau.

Does dim dwywaith fod y gyfres wedi gweld newidiadau chwyldroadol dros yr hanner canrif ddiwethaf. Tybed beth fyddai ymateb Mrs Annie Walker, tafarnwraig wreiddiol y Rovers Return, i drigolion brith Weatherfield heddiw - rhwng gweddwon parchus yn paffio dros gigolo, lesbiaid ifanc yn eu harddegau, llofruddiwr yn plymio’i deulu mewn car i gamlas oer, a pherchennog trawsrywiol y caffi?

Pen-blwydd hapus, Chuck.