Pa Refferendwm?


Ydych chi’n barod i daro croes wythnos i heddiw? Am gwestiwn twp. Tydw i’n pregethu i’r cadwedig fan hyn, siŵr iawn? Wedi’r cwbl, d’yn ni’n griw bach dethol a breintiedig iawn - gyda phwyslais ar y ‘bach’ - ac yn ddigon hyddysg ynglŷn â phwysigrwydd Mawrth y Trydydd. Does dim modd osgoi’r ymgyrch ar y we chwaith. Mae fy nhudalen facebook yn boddi dan apêl am ddosbarthwyr taflenni ym Mhontyberem, Penarth ac o flaen M&S Llandudno. Ond mae ’na Wyddfa o waith caled o ran atgoffa’r mwyafrif helaeth o Gymry sydd fawr callach - rhai nad ydynt yn prynu’r papurau Cymreig, ddim yn gwrando ar fwletinau Radio Cymru a Radio Wales, nac wedi gweld negeseuon fideo Shane Williams, Matthew Rhys ac Ioan Gruffudd. A diolch i styfnigrwydd True Wales o wrthod cofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol fel yr ymgyrch ‘na’ swyddogol, sy’n golygu na chaiff ‘Ie dros Gymru’ wneud hynny na manteisio ar arian cyhoeddusrwydd, mae’r Refferendwm yn gymaint o ddirgelwch â giamocs Cyngor Môn. Dim taflenni drwy’r post, dim hysbysebion teledu, dim cyhoeddusrwydd ar dîn bysus bach y wlad neu hysbysfyrddau anferthol yn ein trefi a’n dinasoedd. Ac mae’r sylw ar y teledu yn druenus a dweud y lleiaf. Awr o Pawb a’i Farn o Gaergybi, a dwy raglen hanner awr ar BBC Wales. Dyn a ŵyr beth sydd gan ITV Wales dlawd i’w ddweud ar y mater, er bod Croes Cwrlwys wedi llwyddo i fachu’r gohebydd gwleidyddol profiadol Adrian Masters o Landaf.

Nos Lun diwethaf, darlledwyd Referendum 2011 - The Power Debates o Brifysgol Aberystwyth ar BBC1. Ni welais y rhaglen fyw chwaith, gan nad oeddwn i’n gwybod amdani tan sgwrs dros baned yn y swyddfa drannoeth. Tanio’r gliniadur felly, gwylio ar wasanaeth rhagorol iplayer dros fîns ar dost, ac ennyn sawl ymateb. Yn gyntaf, gwingo dros Nick Martin, True Wales, â’i gymysgedd o fwmblan a mudandod llwyr i gwestiynau’r cyflwynydd Betsan Powys. Diawlio’r deinosor Llafur Russell Goodway am gwestiynu gallu ni’r Cymry i oruchwylio’r broses ddeddfu’n iawn heb gymorth Llundain fawr. A chymeradwyo Martin Shipton, Prif Ohebydd y Western Mail, am dynnu’n sylw at “rigmarôl” y drefn bresennol lle mae un set o wleidyddion yn gorfod mynd â chap yn eu llaw i gael caniatâd gan set arall o wleidyddion ’lawr yr M4.

Er, gallwn i fod wedi rhoi’r gorau iddi ar ôl dwy funud hefyd, achos fe lwyddodd Betsan Powys i grynhoi’r cwestiwn yn dwt o’r dechrau.


Referendum 2011 – The Power Debates: BBC1,
nos Lun nesaf 10.35pm, o’r Coed-duon, Caerffili.

Y Byd ar Bedwar - Y Refferendwm: S4C
nos Lun nesaf 9.30pm