.cach


Roedd pethau’n edrych mor, mor addawol hydref diwethaf. Ar Noson Gwylwyr S4C, cafwyd addewid gan Gaynor Davies, Golygydd Adloniant Ysgafn, am fwy o gomedi a chwerthin yn y Gymraeg. Popeth yn dda felly. Roedd comisiynwyr Parc Tŷ Glas o’r diwedd yn gwrando ar ddymuniadau’r gwylwyr. Ac roedd y gwylwyr yn barod i brotestio tros Sianel Gymraeg annibynnol. Gwrthododd ambell gyfryngi dalu trwydded y Gorfforaeth Ddarlledu, a dychwelodd tri hen stejars Cymdeithas yr Iaith i frig mast teledu. Roedd yna deimlad cyffredinol bod S4C yn haeddu ein cri a’n cefnogaeth. Ac yna fe gawson ni .cym noson Gŵyl Ddewi.

“Gêm banel newydd sbon sy’n sicr o godi gwên wrth i ni dynnu coes a dychanu pethau sy'n ddigon od am Gymru a'r Cymry” oedd broliant S4C. Ac wedi awr a hanner o ddosbarthu taflenni Ie dros Gymru i drigolion amheugar Merthyr, roeddwn i’n barod am rywfaint o ysgafnder. Traed i fyny a joch o Benderyn felly (sori, Dewi Ddyfrwr!). Deg munud yn diweddarach, roeddwn i’n gwingo ac yn clecian y wisgi. Oedd roedd S4C wedi cyflawni’r amhosibl trwy blymio i iselfannau uffernol Tipit.

Cawsom wahoddiad gan y cwisfeistr a’r cyn-sylwebydd pêl-droed Ian Gwyn Hughes, i ymuno â phanelwyr enwog a doniol fel Donna Edwards, Tony Llywelyn a’r gomedïwraig Eirlys Bellin. A Glyn Wise. Roedd y rowndiau gwahanol yn cynnwys dyfalu pwy oedd cefnder Matthew Patagonia Rhys, dewis nawddsant newydd i Gymru, a bathu fersiynau Cymraeg o “quiche”, “dogging” a “rampant rabbit”. Holwch hen fodryb Dilys am ystyr yr olaf. Ac yn eu plith, roedd y perfformwraig ddrag Tina Sparkle yn rhoi help llaw fel sgorfeistres. Neu’n chwerthin am ben ei jôcs tila ei hun, hogi’i hewinedd, chwarae hefo’i gliniadur a thecstio yn y cefndir (am dacsi i Minskys efallai, cyn i’w gyrfa fynd i’r gwellt am byth?). Hyn oll i gyfeiliant clapio a chwerthin ar dâp mewn rhyw ogof dywyll o stiwdio. Aeth yr ias mwyaf dychrynllyd drwyddof pan orffennodd Ian Gwyn Hughes gyda “tan tro nesaf!”.

Mae’n anodd credu bod hon yn hanu o’r un stabl â Y Diwrnod Mawr (Teledu Ceidiog Cyf), cyfres ddogfen wreiddiol a deallus i blant meithrin sydd wedi ennill clod a bri ac enwebiadau am wobrau BAFTA plant Prydain, Rose D’Or a’r Royal Television Society.

Cefais lawer mwy o flas ar Rhod Gilbert’s Work Experience, a ddychwelodd am ail gyfres yr wythnos hon, wrth i’r comedïwr llwyddiannus o Gaerfyrddin dorchi llewys ar fuarth fferm, lladd-dy a’r mart yn ei dref enedigol. O! na fyddai’n gallu siarad Cymraeg. Ac eto, gwastraffu’i ddoniau ar sioe banel bathetig S4C fyddai, berig.





Rhod Gilbert’s Work Experience, BBC1 Wales, nos Lun 10.35pm

Rhod Gilbert Show, Radio Wales, dydd Sadwrn 11.ooam