Merched yn bennaf


Mae’n syndod beth ydi blaenoriaeth golygyddion newyddion teledu'r dyddiau hyn. Nos Sadwrn roeddwn i’n pendilio rhwng un sianel a’r llall er mwyn cael y diweddaraf o’r Dwyrain Canol cythryblus. Ar un llaw, roedd penawdau ‘newydd dorri’ Sky News yn sgrechian fod Arlywydd Sarkozy wedi penderfynu chwarae sowldiwrs hefo Gaddafi ochr yn ochr â’r newydd “egsliwsif” am John Terry yn ailennill capteiniaeth tîm pêl-droed y Saeson. Draw ar Wales Today, roedd Tomos Dafydd yn defnyddio’i ’stumiau gorddramatig gorau wrth gyhoeddi nad oedd Shaun Edwards, hyfforddwr amddiffyn Cymru, wedi ymuno â gweddill y garfan ym Mharis. Ar sail y ffasiwn Stâd du France, y fo oedd gallaf. Ac ar brif newyddion BBC Prydain wedyn, cefais deja-vu o’r wythdegau o weld Julia Somerville wrth y llyw unwaith eto. Y Gorfforaeth yn ceisio gwneud iawn am golli achos o wahaniaethu ar sail oed gan Miriam O’Reilly, cyn-gyflwynydd Countryfile, efallai? Does dim gwirionedd yn y si fod Selina Scott am ddisodli Alex Ni ar soffa One Show chwaith.

Cafodd ffermwraig o Raeadr Gwy ddwy raglen gyfan iddi’i hun ar Cefn Gwlad. Roedd Siân Evans o Lwyncwtta yn fwrlwm byw o fenyw rhwng popeth – magu teulu ac 11,500 o ieir mewn sied uwchdechnolegol (yr ieir, nid y plantos), arwain ymddiriedolaeth i warchod marchnad anifeiliaid y dref, a hybu’r Gymraeg yng nghanol môr o Saesneg yn yr ysgol gynradd. Chafwyd ’run smic gan Evan ei gŵr (di-Gymraeg?) chwaith. Mae’n amlwg pwy sy’n gwisgo’r trowsus oel yn eu tŷ nhw.

Os oedd Siân Evans yn gwneud i mi deimlo rêl diogyn, mae Lowri Morgan yn codi cywilydd ar f’ymdrechion rhechlyd yn y gampfa wrth iddi redeg i gopa’r Wyddfa ddwywaith mewn diwrnod er mwyn paratoi ar gyfer Ras yn erbyn amser (bob nos Iau, 8.25pm) yn yr Arctig. Er y cyfuniad effeithiol o ddyddiadur fideo ac awyrluniau dramatig ohoni’n ymarfer yn Eryri a Norwy, buasai ymateb gan ffrindiau a pherthnasau wedi ychwanegu elfen arall i’r gyfres yn hytrach na chlywed ochr Lowri o bethau’n unig. Gyda llaw, mae teitl y gyfres yn mynd dan fy nghroen i. Beth sy’n bod gyda ‘ras yn erbyn y cloc’ yn lle’r cyfieithiad slafaidd o’r Saesneg? A ‘her’ yn lle ‘sialens’ byth a hefyd?





Ond dynes yr eiliad, heb os, yw Sofie Gråbøl o Ddenmarc sy’n portreadu’r Ditectif Sarah Lund yng nghyfres ddrama ragorol BBC Four, The Killing (Forbrydelsen). Wedi naw wythnos o gnoi ewinedd i’r bôn wrth ddilyn troeon annisgwyl ymchwiliad i lofruddiaeth merch ifanc, gan amau pawb o’i thad i’w hathro ysgol i Faer Copenhagen, a gweiddi bob tro’r oedd Lund yn mentro i ryw warws tywyll arall ar ei phen ei hun- heb fflachlamp na gwn wrth gwrs - daw’r cyfan i ben nos Sadwrn. A’r newyddion gwych yw bod y BBC wedi prynu’r ail gyfres, sy’n sicrhau y bydd Sarah Lund a’i siwmperi gwlân enwog o Ynysoedd Faröe, yn ôl cyn diwedd y flwyddyn.