Newid yn chênj


Mwy o rygbi. Rhaglenni plant o amser brecwast tan swper, a ta-ta Wedi 3. Ailddarlledu Pobol y Cwm am 10 yr hwyr ar ôl y dangosiad cyntaf arferol am 8. A phwyslais ar ddysgwyr, crefydd a diwylliant ar y Sul. Dyna rai o brif bwyntiau’r strategaeth ar ddyfodol S4C a gafodd gymaint o groeso gan gynhyrchwyr teledu annibynnol â Chyrnol Gaddafi rownd bwrdd y Cenhedloedd Unedig. “Colli cyfle” oedd cri’r cyfryngis. “Pa gyfle?” meddwn i.

Does yna ddim byd syfrdanol o gyffrous na dramatig yn strategaeth y Sianel, hyd y gwela’ i. Mae’n hysbys eisoes mai rygbi, rygbi a rygbi yw mantra Parc Tŷ Glas. Ac er cystal a phoblogaidd yw gwasanaeth Cyw (a Stwnsh am wn i), mae gwir angen canolbwyntio ar yr arddegau a chreu cyfres ddrama i ategu Rownd a Rownd. Gyda chastiau criw Cwmderi ar frig siart gwylwyr S4C, gan hawlio’r pump uchaf yn rheolaidd, does ryfedd fel y penaethiaid yn awyddus i’w hailddarlledu gydag isdeitlau am ben omnibws y Sul. Ond ddwywaith yr un noson? “Yffach gols”, chwadal Mrs Mac ers talwm. Os rhywbeth, byddai’n well gan lawer o’m cyfoedion petai Pobol y Cwm yn dychwelyd i hen slot poblogaidd 7 o’r gloch. Alla i ddim ymateb i dranc posibl Wedi 3 - y tro diwethaf gwelais i’r rhaglen roedd Elinor Jones yn pendwmpian ar y soffa a Felix Aubel yn trafod hen greiriau. A na, nid Bill Hughes ac Eric Howells oedden nhw. Mae’n amlwg ei bod yn bwysig i 355 o ffans Facebook sydd wedi ymuno â thudalen “Achub Wedi Tri” er mwyn diogelu “rhan mor bwysig o'r sianel ac o fywyd a diwylliant Cymru… yn rhoi sylw i bob agwedd o fywyd bob dydd ac yn adnodd pwysig i rai sydd adref yn y prynhawn”. "Adnodd?!". Ych-a-fi. Mae'n amlwg fod rhywun wedi llyncu Jargoniadur y Cynulliad Cenedlaethol. Ac am fwriad y Sianel i droi’r Sul yn gonglfaen “crefydd a diwylliant”, beth ar y ddaear oedd cyfres ddogfen Y Daith a Gwlad Beirdd felly, heb sôn am yr hen-hen-hen stejar Dechrau Canu?

Nid problem unigryw i S4C mohoni chwaith. Mae’n bosibl y bydd BBC2 yn lluchio’i rhaglenni dyddiol i’r bin er mwyn arbed costau, a dangos bwletinau di-dor BBC News tan 7 yr hwyr. Does dim sôn am dudalen “Achub Diagnosis Murder ac Antiques Road Trip” ar Facebook hyd yma.

Mae pethau’n edrych ychydig yn well yn y tymor byr. Er bod “comedi Cymraeg” yn air hyll ers noson Gŵyl Ddewi, bydd y Sianel mewn dwylo diogel nos Wener nesaf gyda Tudur Owen o’r Doc yng nghwmni Vaughan Roderick a Siân Lloyd. Ac mae hysbysebion Porthpenwaig, y gyfres ddrama newydd o Ben Llŷn, yn edrych yn bur addawol.