Trabantio yn Llambed


Ydych chi’n cofio Plu Chwithig a Pelydr X ers talwm? Rhaglenni dychan gyda chymysgedd o ganeuon a sgetshis am gocynau hitio’r dydd. Ac ar y radio wedyn, roedd criw Post Mortem yn hogi’u cyllyll wrth daclo enwogion y genedl, fel y cefais f’atgoffa’n ddiweddar gan raglen Cofio John Hardy ar foreau Sadwrn. Gwych. Ac yn fwy diweddar, roedd cartwnau Cnex yn tynnu coes y ddau Bryn, Dai a Jonsi, Iolo, Amanda Protheroe a Meinir Gwilym. Beth gebyst ddigwyddodd iddi? Cyfres Cnex hynny yw, nid Amanda PT. Dyn a ŵyr, mae yna lond cenedl o ysbrydoliaeth y dyddiau hyn, rhwng amaturiaid True Wales, aelodau hunanfodlon y Cynulliad a chomisiynwyr di-glem S4C. O leiaf mae Radio Cymru yn dal i fanteisio ar y cymeriadau comig hyn, mewn rhaglenni fel Bwletîn gyda Gary Slaymaker neu Bechingalw gyda Nigel Owens a’i banelwyr sy’n bwrw golwg ar benawdau’r wythnos o festris bach y wlad.


Mae pethau dipyn tlotach o safbwynt dychan ar S4C. Nos Iau diwethaf, fodd bynnag, dechreuodd cyfres newydd addawol – os hanner awr yn rhy hir. Croeso, serch hynny, i Emyr Prys Davies a Lisa Angharad (merch Linda 'Plethyn' Healy iff iw plis), wynebau newydd a “chyflwynwyr lleiaf profiadol Cymru” meddai’r trosleisydd, sy’n llywio sioe adloniant Ddoe am Ddeg (Rondo) o sied fawr gerbron cynulleidfa o 19 dryslyd yr olwg – sy’n rhan o’r jôc yn ôl y sôn. Yn gyfuniad gorffwyll o Wedi 3, Cyfle Byw a Gofod, Syr Wynff ap Tarantino a theitlau a cherddoriaeth agoriadol HTV circa 1973, mae’n amlwg na fydd yn plesio pawb. A tydi pob sgetsh ddim yn taro deuddeg, gyda ‘Shedsbecian’ braidd yn ailadroddus a’r gêm gwis ‘Sbeisdref’ yn ddirgelwch llwyr i mi. Ond efallai mai dyna’r nod. Gobeithio i’r nefoedd nad yw’n cynnig rhagflas erchyll i ni o raglenni S4BB/C dlawd yn y dyfodol. Ond yr uchafbwyntiau oedd cyfres o sgetshis am yrrwr tacsi di-glem sydd wedi mopio gormod ar Bryn Fôn yn ‘Gwlad yr Astra Gwyn’, a Lisa Angharad yn anfon negeseuon anweddus ar ran merched Llanbedr Pont Steffan mewn gêm ‘Tombola Tecst’. Dim ond gobeithio na fydd Jane Davidson AC a’r Heddlu Carbon ar ei hôl hi am yrru Trabant gwyrdd, car drwg-enwog o Ddwyrain yr Almaen sy’n chwydu mwy o lygredd na simneiau Port Talbot. Ond yr eisin ar y gacen oedd hysbyseb “Swopio”, cyfres newydd hollol absẃrd lle mae’r werin yn ffeirio popeth o dun ffa pob am hwfyr hanner gwag. Ac meddai’r gyflwynwraig orfywiog: “A - sa i’n siŵr sut bydd e’n ffitio mewn i’r plot, ond bydd e’n coginio rhywbeth i bobman ry’n ni’n mynd”. Teyrnged wych i un o gomisiynau gwaetha’r Sianel.


Roeddwn i’n meddwl mai hysbyseb ddychanol oedd honno ar gyfer y gêm rygbi rhwng myfyrwyr Abertawe a Chaerdydd a ddarlledwyd yn fyw o’r Mileniwm ar y Clwb Rygbi neithiwr. Ond, na. Mi gawson ni ddwy awr gron o’r ddywededig gêm. Os gyrhaeddith hon siart deg uchaf S4C, mi gyfranna’ i at y gyfres nesaf o Cyfnewid.