Gair i gall




Dyma gri o’r galon i un o gyflwynwyr ifanc gorau S4C. Mae’n hen, hen, bryd i Mari Lovgreen roi’r sac i’w hasiant. Ar ôl dysgu’i chrefft ar Uned 5 cyn dod yn wyneb cyfarwydd a phoblogaidd ar faes yr Eisteddfod a Noson Lawen, mae pethau wedi mynd yn giami ar y naw i’r gochen o Gaernarfon. Dwi wedi dweud fy nweud digon eisoes am Cyfnewid. A bellach, mae wedi canfod ei hun Ar Gamera gyda Rhodri Ogwen Williams, sbloets nos Sadwrn y Sianel sy’n codi hiraeth am ddyddiau’r Brodyr Bach. “Cyfres adloniant ddireidus” ydi broliant y wefan, gyda chymysgedd o gamerâu cudd yn tynnu coes y cyhoedd, gwesteion arbennig fel Colin Jackson, Tara Bethan a Ryland Teifi, a gemau amrywiol i’r gynulleidfa. Swnio’n dda – ar bapur efallai. Neu ar gefn mat cwrw yn y Conway neu’r Cameo ar noson fawr i staff cwmni Alfresco, yn ôl yr hyn a welais hyd yma.


Mae’r stiwdio’n wirioneddol od, gyda llong ofod yn hongian uwchben y gynulleidfa sy’n eistedd mewn dwsin o geir Saab-heb-do a beiciau modur – cyfuniad anesboniadwy o bictiwrs parcio (drive-in) ac ET. Does ryfedd fod Ryland Teifi yn codi pac i Iwerddon os mai dyma’r math o waith teledu a gynigir iddo yng Nghymru bellach.

Ac un o’r gemau ydi ‘Talu’r Bil’, lle mae aelod lwcus/anffodus o’r gynulleidfa yn ateb cwestiwn er mwyn ennill swm cyfatebol o arian i’r dderbynneb yn ei boced. Dwi’n dal i aros am rywun sy’n mentro ar gamera efo derbynneb gwerth £1.36 o siop y pentref. Felly, plîs Mari, gwna ffafr i ti dy hun, rho dy droed i lawr ar sbardun un o’r Saabs a’i heglu hi fel diawl o’r fath rwtsh.

Gair i gall arall i droellwyr disgiau Radio Cymru. Does dim dwywaith fod Gwyneth Glyn yn gantores a sgwenwraig ddawnus, a dwi ddim yn amau nad yw ei halbwm ddiweddaraf yn werth ei phrynu - ond a oes rhaid i bob Twm, Dic a Dafydd a Caryl a Nia a Geraint Lloyd chwarae’r gân ‘Ewbanadmandda’ hyd syrffed? Canmoliaeth, arall y llaw arall, i ohebwyr y Gorfforaeth ar ôl eu lambastio am neilltuo cymaint o’u hamser a’u hadnoddau i’r Briodas Frenhinol. Diolch i’r Gogs styfnig, mi barodd y broses o gyfri’ pleidleisiau Etholiad y Cynulliad am ddeuddydd, gan ofyn tipyn o waith goramser ar ran Dewi Llwyd a’i dîm yn y Bae ac mewn canolfannau hamdden ar hyd a lled y wlad. A diolch byth am gyfranwyr cystal â Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn Gymraeg, a Betsan Powys yn Saesneg, sy’n gwneud iawn am ddiffyg sylw Prydeinig i fuddugoliaeth Carwyn Jones yn sgil chwyldro Alex Salmond.