Pwy sy'n perthyn?



Un o le 'dach chi?”


“Da chi’n perthyn i hwn a hwn?”


Ie, y cwestiynau nodweddiadol ar faes y Steddfod, y Sioe Fawr neu’n Seland Newydd, fel y profodd cyfaill o Rydaman yn ddiweddar wrth gwrdd â dyn o’r Tymbl ar fin gwneud naid bynji. Ac yn achos y cyfryngau Cymraeg, pwy sy’n fab/merch i bwy ym myd clique-aidd CF5. Fel cenedl fusneslyd, mae’n syndod nad oes rhaglen hel achau wedi bod ar S4C cyn hyn. Maen nhw’n wirion o boblogaidd ar y sianeli Saesneg ers oes pys, o Who do you think you are? y BBC i’r marathon dagreuol Long Lost Family ar ITV. Ac mae BBC Wales wedi cynhyrchu pum cyfres o Coming Home, sy’n helpu enwogion i ddysgu mwy am ei gwreiddiau Cymreig, fel yr actores Hollywood Susan Sarandon ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Christopher All Creatures Great and Small Timothy yn y Bala, a’r colofnydd Janet Street-Porter yn Llanfairfechan. Efallai fod yna rhyw elfen sadistaidd ynom yn ysu am weld ymateb rhyw celeb i’r ffaith fod chwaer-yng-nghyfraith cefnder ei nain yn butain ers talwm, neu’n waeth fyth, yn Dori mawr.

Nid enwogion ond pobl gyffredin sy’n ymchwilio i’w gorffennol yn Perthyn, cyfres 8-rhan a gychwynnodd neithiwr, gyda Geraint Morgan o Benlle’r-gaer ger Abertawe. Er bod Geraint eisoes wedi gwneud tipyn o waith ei hun, roedd angen cymorth i ddatrys dirgelwch a rwygodd ei deulu dros ganrif yn ôl. Beth achosodd i Llewelyn Davies, brawd ei dad-cu, adael yr aelwyd ym Myddfai dan gwmwl ym 1908, a mudo i America yn llanc dwy ar bymtheg? Dan law tebol Heledd Cynwal - merch cyflwynwraig nid anenwog Wedi 3 - a chriw o dditectifs teuluol Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth, datgelwyd mai gadael ei dad sychdduwiol a’r gymdeithas ffug-barchus a wnaeth ar ôl cael ‘merch i drwbwl’. Ond erbyn y diwedd, cawsom wybod iddo ymgartrefu fel saer coed yn Colorado, priodi a magu tri o blant, ac ennill bri iddo’i hun fel y Cymro ystrydebol oddi cartref - arweinydd côr. A chydag ochenaid o ryddhad, deallodd Geraint fod ei hen ewythr a dafad ddu’r teulu wedi gwneud yn dda mewn gwlad newydd wedi’r cwbl. Ond - ac efallai mai fi sy’n dwp - dwi dal ddim yn berffaith sicr ai gadael ‘gwlad y menig gwynion’ o’i wirfodd neu dan orfodaeth oedd hanes yr hen Lew.

Trefnodd y tîm cynhyrchu syrpreis fach neis i Geraint Morgan ar y diwedd, trwy gysylltu â’i deulu newydd ar draws yr Iwerydd. A diolch i ogoniant y wegamera, doedd dim rhaid gwario cyfran helaeth o gyllideb y rhaglen ar docyn awyren i’r Unol Daleithiau. Diolch byth na ildiodd y cynhyrchwyr i’r demtasiwn o ddarparu car bach ciwt i Heledd Cynwal, y chwiw ddiweddaraf mewn rhaglenni Cymraeg, fel Fiat coch Aled Sam ac MG bach gwyrdd Steffan Rhodri.

Perthyn, 9 o’r gloch nos Fercher