Tipyn o sioe



Mae tymor y sioeau amaethyddol wedi cychwyn, a Dai, Shân Cothi a Russell Jones eisoes wedi cyflwyno uchafbwyntiau Tyddyn a Gardd/11 o Lanelwedd. Alla’ i fentro fod y rhaglen wedi denu’r gwylwyr wrth eu miloedd, gan gynnwys canran fawr o’r di-Gymraeg yma a thros glawdd offa sy’n dilyn Cefn Gwlad a Ffermio yn rheolaidd – ac sydd wedi ’laru ar bwyslais Countryfile ar dwristiaeth wledig. Gwn am sawl ffermwr yn y de-ddwyrain sy’n wylwyr ffyddlon trwy’r botwm 888. Yr un fath ydi hi efo Pobol y Cwm. Piciwch i dudalen sylwadau’r wefan, ac fe welwch chi ymateb gan selogion sebon o Lundain, Swydd Efrog a Cumbria. Maen nhw’n gyfranwyr gwell o lawer na’r Cymry cynhenid.

Wythnos diwethaf, cynhaliwyd sioe Cwmderi ar fuarth fferm Penrhewl. Wedi blwyddyn gythryblus a thywyll yn hanes (unig) fferm y pentref, rhwng iselder, colli arian a’r fuches gyfan i TB, roedd hi’n hen bryd i’r haul wenu ar y Reesiaid. Do, fe enillodd Eifion gwpan am y ddafad orau - er na chafwyd bŵ na bref mohoni, ac enillodd Eileen wyliau i Sorrento gyda Cadno - gan bechu ei merch Sioned yn uffernol. A! ’rhen Sioned Rees. Y flonden frathog a’r bwli sydd wedi llwyddo i bechu pawb a throi siop y pentref yn gawl potsh o boutique. Ydy, mae epil Denz wedi datblygu’n olynydd teilwng i Lisa Morgan (Beth Robert) a Sharon Burgess (Siân Naomi), fel arch-ast y pentref. Nid bod hynny’n argoeli’n dda iddi chwaith - gan i’r naill golli’i chariad lesbiaidd i lofrudd, a’r llall wedi’i lladd gan fom car. Pob clod i Emily Tucker am fynd i’r afael â chnawes fwya’r Cwm ag arddeliad, gan ddatblygu’r cymeriad clasurol mewn opera sebon y mae pawb yn hoffi’i gasáu. Gallwch hyd yn oed ymuno â thudalen Facebook ‘Mae Sioned Rees, Pobl y Cwm, yn haeddu SLAP’. Gwych! Does dim awgrym ei bod hi am gallio yn y dyfodol agos, wrth i Macsen White ofyn cwestiwn arbennig iddi’r wythnos hon…

Cyn cloi, sylw i seren ddisgleiria’ BBC Wales. Mae Doctor Who yn dal i ddiddanu’r to hŷn a brawychu’r rhai bach bob nos Sadwrn, er bod y ffans hirhoedlog yn amheus o hyd o’r bartneriaeth rhwng Matt Smith a’r Albanes Karen Gillan. Rhan o’r hwyl i mi, beth bynnag, ydi ’nabod y lleoliadau Cymreig, ac roedd Dr Who Confidential (BBC Three) yn dipyn o agoriad llygad nos Sadwrn diwethaf. Cip y tu ôl i’r llenni a gawsom, gan gynnwys camp y rheolwyr lleoliadau o ganfod chwe chastell gwahanol i gyfleu mynachdy yn y 22ain ganrif, a’r her aruthrol o symud actorion a chynhyrchwyr a setiau o Gaerffili i Abaty Nedd, o Gaerdydd i Gas-gwent yng nghanol stormydd eira Rhagfyr diwethaf.


Gobeithio bod adran farchnata’r Bwrdd Croeso yn gwylio!