Yma a thraw



Roedd dychwelyd adref o gynhesrwydd Croatia yn gythraul o sioc i’r system ddechrau’r wythnos. Er nad amserlen teledu nosweithiol y wlad mor wahanol â hynny – eu fersiwn nhw o Big Brother, Masterchef a Hrvatska traži zvijezdu (Pop Idol Croatia) – roedd y tywydd a’r traethau braf yn falm i’r enaid. A minnau’n dal i hiraethu am ynysoedd Brač a Hvar, dyma brofi cynhesrwydd Cyprus yng nghyfres ragorol Yr Ynys (Green Bay) ar dâp. Dw i’n dueddol o hepgor y pum munud cyntaf, sy’n ailadrodd cyflwyniad stiff pob rhaglen (“…lle mae bywyd natur a natur bywyd wedi datblygu yn ei ffordd unigryw ei hun”), cyn cael blas arni go iawn. Beti George oedd wrth y llyw, ac mae croeso iddi wneud y jobyn bob wythnos. Dyma rywun sy’n gallu traethu i’r dim, yn siarad yn glir â’r gynulleidfa ac yn rhoi’r pwyslais yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Roedd Gareth Davies, druan, yn anaddas o brennaidd wrth adrodd stori Fiji bythefnos yn ôl. Gair i gall, bosys teledu – cyflogwch gyn-chwaraewyr rygbi i ohebu ar gemau rygbi’n unig, waeth pa mor boenus ydi hynny, a gadewch i’r hen lawiau proffesiynol gyflwyno.

Gwyddom eisoes fod Beti George wedi gwirioni ar ynysoedd Groeg, ers ei chyfraniad i 3 Lle y llynedd. Er hynny, cyfaddefodd nad oedd ynys ranedig Cyprus mor annwyl iddi. A diawch, mae’n ynys gymhleth sydd wedi’i darnio’n ddwy ers i fyddin Twrci feddiannu’r gogledd ym 1974. Roedd y straeon personol yn gymysgedd o dristwch, hiraeth a chwerwder, gydag unigolion fel Charis ymhlith 20,000 o Gypriaid Groegaidd a ffodd am eu bywydau i dde’r ynys – yn ddim mwy na glanhau ethnig, medd Beti. A’r ffarmwr Andres Hatziaros wedyn, a gafodd ei hel o’i gynefin yn Axna pan gyrhaeddodd y Twrciaid. Dim ond 4 erw sydd ganddo bellach, o gymharu â’r 60 erw ffrwythlon, wreiddiol, sy’n sownd yn nhir neb megis “rhith yn y pellter”. Cawsom gip ar brifddinas fyrlymus fodern, ranedig, Nicosia hefyd – yr ochr Roegaidd o leiaf. Trueni na welwyd mwy o’r ochr Dwrcaidd y ddinas (Lefkoşa) i gymharu’r ddwy. Coron y gyfres yw’r gwaith camera, ac roedd y delweddau’n dweud cyfrolau ac yn aros yn y cof. Er enghraifft, y gofeb â channoedd o luniau pasbort du a gwyn o’r rhai sy’n dal ar goll ers deugain mlynedd, a’r golygfeydd o westai diffaith Famagusta yng ngogledd Cyprus a fu unwaith yn hwylfan i sêr Hollywood fel Burton a Taylor.

O Gyprus i Grymych, ac i’r ail raglen ar dâp, Bro: Papurau Bro (Telesgôp). Does dim byd dramatig o wahanol yn hon, ond gyda fformat mor lwyddiannus a ffigyrau gwylio’n saethu drwy’r to, pam potsian? Cymeriadau papur bro ‘Clebran’ yn ardal y Preseli oedd dan sylw, sy’n wir haeddu’r teitl “cymeriadau” yn enwedig criw dartiau’r Crymych Arms. Dw i’n gallu clywed chwerthiniad Shân Cothi o hyd.

Bro: Papurau Bro, 8.25 o’r gloch nos Fawrth
Yr Ynys, 9.00 o’r gloch nos Fawrth