Gwynt teg i fis Mehefin





Gwynt teg (oer a glawog) i fis Mehefin. Mis lle’r oeddech chi’n fwy tebygol o eistedd gerbron y bocs bach na mwynhau barbeciw fin nos. Ta-ta i obeithion Andy Murray ar gwrt W19 am flwyddyn arall, ac i obsesiwn dyn camera’r BBC gyda chwaer Kate Middleton. A ffarwél i’r Goets Fawr, ar ôl wythnos o fynd drot-drot ar hyd y lôn bost o Groesoswallt i Gaergybi. Mae’n siŵr fod Heddlu’r Gogledd yn diawlio’r criw cynhyrchu am golli wythnos o ddirwyon gyrru ar yr A5, a gyrwyr loris Iwerddon a beicwyr modur yn ’sgyrnygu’u dannedd y tu ôl i Ifan Jones Evans a’i feirch.

Roedd y goets sgleiniog yn wledd i’r llygaid, a’r awyrluniau o Ddyffryn Dyfrdwy i Nant Ffrancon yn profi nad oes unlle tebyg i adre’ yn llygad yr haul. Ac roedd Shân Cothi mor fyrlymus ag erioed, ac yn haeddu medal am ddarlledu’n fyw yng nghanol piwiad bach Pentrefoelas ar yr ail noson. Un o’r golygfeydd mwyaf swreal oedd honno o Tara Bethan yn trafod ei halbwm newydd gydag Ifan ar ben y goets sigledig. Dyna chi sioe siarad ar ei newydd wedd! Erbyn y drydedd noson yng Nghapel Curig, fodd bynnag, roeddwn i’n dylyfu gên. Gormod o bytiau byrion, torri straeon yn eu blas cyn y degfed hysbyseb, ac ymweliad ARALL ag ysgol leol. A hyd yn oed pan drafferthodd un o’r gwylwyr i gyfrannu at y rhaglen, fel y greaduras ddi-Gymraeg o Dreffynnon a ddaeth yr holl ffordd i bier Bangor gyda llun olew o’i pherthynas a fu’n llywio coets debyg, prin hanner munud gafodd hi i adrodd yr hanes. Anfantais fawr arall, wrth gwrs, oedd diffyg cysylltiad go iawn â’r cyfnod dan sylw - 1808 - yn wahanol i gyfres fwy llwyddiannus y llynedd, lle’r oedd y cof yn dal yn fyw iawn am Y Porthmon.

Ers talwm, roedd amserlen teledu Gorffennaf mor farwaidd â gobeithion Democrat Rhyddfrydol mewn etholiad. Bellach, mae’r cyfresi gorau wedi’u neilltuo i ganol haf, gan gychwyn hefo Cariad@Iaith gyda Gareth Roberts, Nia Parry ac wyth dysgwr ‘enwog’ nos fory. Dim ond gweddïo nad ydy safon amheus trydarwr y gyfres yn arwydd o safon y gwersi: “Datgelwyd y selebs yfory! / Our celebs will be revealed tomorrow!”


Wythnos i heno, bydd Capten Jack a Gwen Cooper yn dychwelyd i gadw reiat arallfydol yn Torchwood, un o allforion mwyaf llwyddiannus adran ddrama BBC Cymru Wales. Er gwaethaf blas Americanaidd amlwg y gyfres hon, mae’r gwreiddiau Cymreig yno o hyd, gan gynnwys golygfeydd o Fro Gŵyr a Chaerdydd a crème de la crème y byd actio Cymraeg, William Thomas a Sharon Morgan, fel rhieni Gwen (Eve Myles). Ymlaen â’r antur!



Cariad @Iaith, 8.25 o’r gloch nos Wener, S4C
Torchwood: Miracle Day, 9.00 o’r gloch nos Iau, 14 Gorffennaf, BBC1