Newyddion Da



Peth rhyfedd ydi blaenoriaethau’r ’stafell newyddion. Nos Sadwrn diwethaf, roeddwn i’n gyrru trwy grombil troellog yr A470 yn Sir Frycheiniog ac yn chwilio’n daer am rywbeth amghenach na rhaglen geisiadau Saesneg a chanu gwlad Wil Morgan ar Radio Cymru. Dyma droi at fy hen ffrind ffyddlon Radio 5 Live am grynodeb o newyddion y dydd, gan ddisgwyl trafodaeth bellach ar y gyflafan yn Oslo ac ynys Utøya. Ond ow! marwolaeth Amy Whinehouse, jynci pop 27 oed a oedd yn hawlio’r prif benawdau Prydeinig, nid y 70 a mwy o Norwyiaid a laddwyd mor erchyll o ddisymwth gan un o’u cydwladwyr. Ms Winehouse oedd ail newyddion ‘pwysicaf’ Radio Cymru wasaidd drannoeth hefyd, er na fyddai gan gynulleidfa draddodiadol y Sul unrhyw glem amdani hi na’i chaneuon.

Ochneidio’n rhwystredig braidd wnes i gyda’r orsaf genedlaethol wythnos diwethaf hefyd. Aeth llond trelar o ohebwyr BBC Cymru am Lanelwedd, gan gynnwys Nia Thomas Y Post Cyntaf. A thra’r oedd miloedd ohonom yn ymlaen at ffenestr siop fawreddog y byd amaeth, roedd y BBC yn prysur bigo beiau ben bore Llun – yn amau a fydd system ddraenio newydd y Prif Gylch yn gallu dygymod â dilyw posibl, a fyddai’r ffarmwrs yn aros adra oherwydd y sefyllfa economaidd, allai’r Sioe ddygymod heb stondinau’r parciau cenedlaethol, a sut fath o groeso a gaiff Alun Davies AC, yr ‘Is/Tan/Dirprwy Weinidog Rhan-amser dros Amaeth-ond-nid-TB’ ar lan afon Gwy? Fel mae’n digwydd, cafwyd wythnos hynod lwyddiannus, gyda’r tywydd a’r traffig yn byhafio, y niferoedd gorau (226,407 o bobl) ers pum mlynedd, a stondinwyr eraill wedi bachu’r llefydd gwag. Siom i ddaroganwyr gwae’r Bîb felly.

Ganol yr wythnos wedyn, roedd Dylan Jones wrthi efo’i lwy bren arferol ar Taro’r Post wrth geisio creu helynt rhwng yr Urdd a’r Sioe Fawr, ar ôl i adolygydd papurau newydd Dafydd a Caryl awgrymu mai’r Clybiau Ffermwyr Ifanc oedd gwir fudiad ieuenctid Cymru. Chwarae teg i Rhydian Mason, a gyfaddefodd wedyn mai sylw tafod yn y boch oedd hi ar ôl noson hwyr yn y Pentre Ieuenctid. Ymateb call a rhesymol y cyfranwyr oedd bod lle i’r ddau fudiad yn y Gymry Gymraeg, ond na, roedd y Bonwr Jones yn benderfynol o ddal ati a chreu coelcerth o fatsien wlyb. Diflannodd y “stori” mor sydyn â chinio Welsh Black o flaen Dai Jones.

Gyda llaw, ai Dylan Jones fydd prif gorddwr yr orsaf ar ôl i Wythnos Gwilym Owen ddod i ben yr wythnos hon, wedi 16 mlynedd o “holi a stilio, procio a phryfocio”. Gobeithio na fydd yr hen ddarlledwr profiadol yn diflannu o’r tonfeddi am byth, ac y bydd yn dal i adolygu’r wasg Gymraeg bob dydd Gwener yn ogystal ag ymateb yn grafog i’w hoffus Sanhedrîn bob fis Awst. Ymddeoliad hapus i Mr Meldrew Môn!