Gower a Phenfro



Dwi’n bwriadu bachu’r sgidia cerdded a’r babell yr hydref hwn, a’i gwadnu hi am y gorllewin pan fo llwybrau a thraethau Sir Benfro’n wacach a brafiach nag adeg gwyliau’r ysgolion. Medda fo, wrth i’r glaw chwipio yn erbyn ffenestri’r tŷ acw a hyrddio dros 400 o adar drycin Manaw yn gaeth ar glogwyni Niwgwl yn lle’r Ariannin. Ond am y tro, mi wneith cyfres newydd nos Lun y tro - Llwybr yr Arfordir, sy’n bwrw golwg ar gyfoeth archeolegol, daearegol, byd natur a dynol y gornel fawr hon o Gymru. A thra mai cyd-slotiwr tafarn Porthgain fydd fy nghyd-deithiwr i, mae’r awdur a’r darlledwr Jon Gower yn cael cwmni’r naturiaethwraig Elinor Gwynn a’r ysgolhaig Damien Walford Davies. Ac mi fydd bwrdd croeso’r sir wrth ei fodd, wrth i’r awyrluniau agoriadol ddangos yr arfordir ar ei gorau dan haul. Beth bynnag ydi hwnnw’r dyddiau hyn.

Bydd Jon Gower a’i westeion yn rhoi sylw i’r llwybr 186 milltir o Lanrhath yn y de Seisnig, i Landudoch yn y gogledd Cymreiciach. ‘Amroth’ ydi Llanrhath, gyda llaw, fel y dysgais yn y pum munud agoriadol. Rhywbeth arall a ddysgais oedd bod y cyflwynwyr wedi cael dillad a sgidia swanc gan gwmni awyr agored nid anenwog o Borthmadog - dyna pam welsom ni’r neges “Gosod cynnyrch/Product placement” ar y sgrin mae’n debyg. Mae unrhyw beth sy’n hybu coffrau’r Sianel yn iawn gen i. Cyn belled nad yw’r cyflwynwyr yn mynd dros ben llestri efo bocsys siocled Pemberton yn nes ymlaen yn y gyfres.

Dinbych-y-pysgod gafodd y rhan fwyaf o’r sylw yn yr hanner cyntaf, fel prif dref glan môr y sir a chyrchfan tripiau ysgol Sul Jon Gower pum mlwydd oed ymlaen. Mae adeiladau Sioraidd, lliw pastel, eiconig y dref yn hen gyfarwydd i’r gweddill ohonom ac yn destun cyfres ddogfen ar BBC Wales ar hyn o bryd hefyd. Roedd cilfachau mwy dieithr y sir yn ail hanner y rhaglen yn fwy diddorol, yn enwedig ymweliad Damien Walford Davies â Gumfreston â’i thair ffynnon sanctaidd a ddenai’r pererinion ers talwm - o fynaich y chweched ganrif i grachach Oes Fictoria. Difyr clywed mai porthladd bach ffyniannus oedd hon ar un adeg cyn i’r afon gael ei dargyfeirio a chreu “mieri lle bu masnach”. Ac roedd Elinor Gwynn wedi dotio efo’r llwybrau natur lleol, gan ddangos planhigion llesol fel y llwylys a ddefnyddiwyd gan forwyr fel dos o fitamin C at y llwg neu’r sgyrfi.

Cawsom wledd i’r llygaid diolch i waith camera Garry Wakeham, rhwng yr eithin melyn llachar yn erbyn glesni’r môr a’r fuwch goch gota dryloyw ar ddeilen werdd.

Lle mae’r hen babell ’na eto…?


Llwybr yr Arfordir, S4C, 9 o’r gloch nos Lun
Tenby 24/7, BBC1 Wales, 7.30 nos Lun